Pride LHDTRCA+
706 diwrnod yn ôl
Mis Mehefin yw Mis Pride LHDTRCA+!
Pam rydyn ni'n dathlu mis Pride?
Mae Pride yn derm ar gyfer hyrwyddo urddas, cydraddoldeb a mwy o amlygrwydd i bobl LHDTRCA+. Pride, yn hytrach na chywilydd a stigma cymdeithasol, yw'r prif gymhelliant ar gyfer mudiadau hawliau LHDTRCA+. Mae'n ddathliad o bobl yn dod at ei gilydd mewn cariad a chyfeillgarwch, i ddangos pa mor bell y mae hawliau LHDTRCA+ wedi dod, a'r ffaith bod yna waith i'w wneud o hyd mewn rhai mannau.
Mae Pride yn ymwneud â bod yn falch o bwy ydych chi waeth pwy rydych chi'n ei garu a dod at eich gilydd fel cymuned. Mae rhai ohonom yn ystyried ein hunain yn LHDTRCA+. Mae hyn yn golygu y gallwn fod yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, rhyngryw, anneuaidd, cwiar neu holi ac ati.
LHDTRCA+ ac Iechyd Meddwl a Llesiant
Gall unrhyw un brofi problem iechyd meddwl. Ond mae'r rhai ohonom sy'n LHDTRCA+ yn fwy tebygol o ddatblygu:
- Hunan-barch isel
- Iselder
- Gorbryder, gan gynnwys gorbryder cymdeithasol
- Problemau bwyta
- Camddefnyddio cyffuriau ac alcohol
- Hunan-niweidio
- Teimladau hunanladdol
- Problemau iechyd meddwl eraill.
Nid yw bod yn LHDTRCA+ yn achosi'r problemau hyn.
Mae'r rhesymau pam mae'r rhai ohonom sydd â hunaniaeth LHDTRCA+ yn fwy tebygol o brofi'r problemau hyn yn gymhleth iawn. Ond mae'n fwyaf tebygol o ymwneud â wynebu pethau fel:
- Homoffobia, deuffobia a thrawsffobia.
- Stigma a gwahaniaethu.
- Profiadau anodd o ddod allan.
- Arwahanrwydd cymdeithasol, eithrio a gwrthodiad.
Gall unrhyw un brofi problem iechyd meddwl. Ond rydym yn gwybod y gallai'r rheiny ohonom sydd â hunaniaeth LHDTRCA+ wynebu heriau ychwanegol o ran cael y cymorth cywir.
I gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth, ewch i'n tudalennau Cymorth a Chefnogaeth ar ein mewnrwyd.
Bydd cyfarfod anffurfiol ar gyfer unrhyw un sy'n nodi eu bod yn LHDTC+ ddydd Mercher 28 Mehefin am 12:30. Os hoffech chi fod yn rhan o'r cyfarfod, e-bostiwch health&wellbeing@carmarthenshire.gov.uk.
Erthygl gan: Tim Iechyd a Llesiant