Cyflwyno ein mantais newydd i weithwyr
733 diwrnod yn ôl
Ydych chi'n aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol?
Os felly, mae gennych gyfle gwerthfawr i ddysgu mwy am ein cynllun ildio cyflog newydd, sef y cynllun Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVC).
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gydag AVC Wise i hwyluso'r fantais gost-effeithlon hon, fel y gallwch baratoi ar gyfer ymddeoliad mwy cyfforddus.*
Mae gan AVC Wise dîm o arbenigwyr a fydd yn eich helpu i ddeall manteision Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol yn eu gweminarau, a sut y gallwch ymddeol yn gynnar neu gyda mwy o arian.
Sut i ymddeol yn gynnar a gyda mwy o arian:
- Dydd Mercher, Mai 24 2023 am 12.30pm
- Dydd Iau, Mai 25 2023 am 5.30pm
Esbonio eich opsiynau ymddeol:
- Dydd Mercher, Mai 17 2023 am 5.30pm
- Dydd Mawrth, Mai 23 2023 am 12.30pm
Peidiwch â cholli allan, archebwch eich lle nawr! Cofrestrwch ar y wefan www.avcwise.co.uk/book
*Buddsoddiad tymor hir yw pensiwn a gall gwerth y gronfa amrywio a gostwng. Gall eich incwm yn y pen draw ddibynnu ar faint y gronfa ar ôl ymddeol, y gyfradd llog yn y dyfodol a deddfwriaeth trethi.