Ymdopi â Gorbryder.
720 diwrnod yn ôl
Wythnos diwethaf oedd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a'r thema oedd gorbryder.
Mae gorbryder yn emosiwn arferol i ni i gyd, ond weithiau gall fynd allan o reolaeth a mynd yn broblem iechyd meddwl.
Gall llawer o bethau arwain at deimladau o orbryder, gan gynnwys pwysau arholiadau, perthnasoedd, dechrau swydd newydd (neu golli swydd) neu ddigwyddiadau mawr eraill mewn bywyd. Gallwn hefyd fynd yn bryderus pan ddaw'n fater o bethau'n ymwneud ag arian a pheidio gallu talu am ein hanghenion sylfaenol, fel gwresogi ein cartref neu brynu bwyd. Fodd bynnag, mae modd gwneud gorbryder yn haws i'w reoli.
Mae llawer o bobl yn dioddef o wahanol lefelau o orbryder bob dydd ac mae llawer o ffyrdd y gall gorbryder effeithio ar y corff a'r meddwl a gallant fynd yn niweidiol.
Dyma rai ffyrdd y gallwch eu defnyddio i reoli eich pryder:
- Therapi siarad.
- Meddyginiaeth (yn enwedig os yw'n ddifrifol).
- Gofalu am eich iechyd corfforol.
- Cadw dyddiadur.
- Sicrhau bod gennych rwydwaith da o gefnogaeth a phobl i siarad â nhw.
Er mwyn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, gwnaethom ofyn ni i rai o'n Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant a'n Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i ysgrifennu'r hyn maen nhw'n ei wneud i'w helpu i ddelio â'u gorbryder. Efallai bod yna rai strategaethau a allai helpu os ydych chi'n gorbryderu am bethau. Gellir dod o hyd i hyn trwy fynd i Padlet.
Am ragor o wybodaeth am orbryder ewch i wefan Mind. Gellir cael unrhyw help a chymorth arall ar ein tudalennau mewnrwyd.
Erthygl gan: Tim Iechyd a Llesiant