Llwyddiant Gweithwyr Cymdeithasol

1 diwrnod yn ôl

Llongyfarchiadau i'n 11 o weithwyr cymdeithasol yn eu tair blynedd gyntaf o ymarfer a gwblhaodd y Rhaglen Atgyfnerthu yn llwyddiannus gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phartneriaeth Porth Agored.

Mae'r Rhaglen Atgyfnerthu yn fodiwl 60 credyd ar lefel 6 y mae'n rhaid i bob gweithiwr cymdeithasol ei wneud yn ystod ei dair blynedd gyntaf o ymarfer er mwyn ailgofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.  

Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr a basiodd a hefyd i Sian Rowlands a Michelle Robertson a basiodd gyda rhagoriaeth.

Llun o'r chwith i'r dde: Ami Brain, Rebecca Hancock, Karly Haverly