Dathlu Dydd Santes Dwynwen
4 diwrnod yn ôl
Cofiwch ei bod hi'n Ddydd Santes Dwynwen Dydd Sadwrn, 25 Ionawr.
Santes Dwynwen yw nawddsant cariadon Cymru. Dwynwen oedd y brydferthaf o blith 24 o ferched y Brenin Brychan Brycheiniog. Fe ddisgynnodd hi mewn cariad â bachgen lleol o'r enw Maelon Dafodrill, ond roedd y Brenin Brychan wedi trefnu ei bod hi'n priodi tywysog arall. Lloriwyd Maelon gan y newyddion, ac aeth Dwynwen, a oedd yn drist dros ben, i'r goedwig i wylo, ac erfyn ar Dduw i'w helpu. Daeth angel i ymweld â hi a roddodd ddiod melys iddi i'w helpu i anghofio am Maelon, ac o ganlyniad cafodd ei droi'n floc o rew.
Yna rhoddodd Duw dri dymuniad i Dwynwen. Ei dymuniad cyntaf oedd i Maelon gael ei ddadmer; ei hail ddymuniad oedd ar i Dduw gynorthwyo pob gwir gariad ; ei thrydydd dymuniad oedd na fyddai hi byth yn priodi. Fel arwydd o ddiolch, daeth Dwynwen yn lleian a sefydlodd leiandy ar Ynys Llanddwyn, oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Yn ôl pob sôn, dyma lle claddwyd Dwynwen pan fu farw tua 460.
Beth am gefnogi busnesau lleol drwy brynu cerdyn Santes Dwynwen neu edrych ar restr chwarae Dydd Santes Dwynwen Menter Gorllewin Sir Gâr ar Spotify.
I ddathlu, rydym yn rhoi cyfle i un aelod lwcus o staff ennill hamper o gynnyrch Sir Gaerfyrddin/Cymreig. I gael cyfle i ennill y wobr, atebwch y cwestiwn isod. E-bostiwch eich ymateb i iaithgymraeg@sirgar.gov.uk erbyn 12:30pm ddydd Mercher, 22 Ionawr. Dewisir yr enillydd lwcus ar hap.
C. Yn ôl pob sôn, ym mhle claddwyd Dwynwen?