Mae'r ffordd rydym yn ailgylchu yn y gweithle yn newid
493 diwrnod yn ôl
O 6 Ebrill 2024, bydd yn dod yn gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i ddidoli eu gwastraff i'w ailgylchu.
O dan y gyfraith newydd, bydd angen gwahanu'r deunyddiau canlynol i'w casglu:
- papur a chardbord
- gwydr
- metel, plastig a chartonau
- bwyd – dim ond ar gyfer eiddo sy'n cynhyrchu mwy na 5 cilogram o wastraff bwyd yr wythnos
Er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru, byddwch yn dechrau sylwi ar newid mewn mannau biniau a chael gwared ar finiau gwastraff ac ailgylchu yn ddiweddarach y mis hwn.
Yn lle biniau unigol ar draws y gweithle, byddwn yn gosod mannau ailgylchu dynodedig mewn lleoliadau strategol mewn adeiladau, gan ei gwneud yn haws i chi waredu'ch gwastraff yn gyfrifol. Bydd lleoliadau'r biniau presennol yn newid a bydd gwybodaeth yn y lleoliadau hynny yn eich arwain at y 'mannau ailgylchu' newydd. Wrth i ni newid i'r drefn newydd, cadwch lygad am bosteri â’r manylion diweddaraf am y mannau ailgylchu agosaf.
Cyfrifoldeb pawb yw rhoi'r gwastraff cywir yn y bin sydd wedi'i labelu'n gywir. Ni chaniateir rhoi eich holl wastraff mewn un bin - rhaid i chi ddidoli'ch gwastraff yn iawn.
Gallai methu â chydymffurfio â'r gyfraith olygu dirwy.