Dathlu ein Dysgwyr
4 diwrnod yn ôl
Bydd ein Gwobrau Dathlu Dysgwyr cyntaf yn cael eu cynnal mis Hydref, gan ddathlu llwyddiannau tîm a chydnabod y bobl ragorol sy'n gwneud gwahaniaeth yn yr awdurdod.
Bydd hwn yn gyfle gwych i gydnabod gwaith caled ac ymrwymiad aelodau eich tîm a'ch cydweithwyr, ac rydym yn eich annog i gymryd ychydig funudau i gydnabod rhywun sydd wedi cael effaith gadarnhaol.
Mae categorïau'r gwobrau yn cynnwys:
- Arweinydd Dysgu'r Flwyddyn
- Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn
- Dysgwr Digidol y Flwyddyn
- Hyfforddwr y Flwyddyn
- Mentor y Flwyddyn
- Hyfforddai Graddedig y Flwyddyn
- Prentis y Flwyddyn
- Dysgwr Gofal Cymdeithasol y Flwyddyn
- Gwobr Eiriolwr Llesiant
- Gwobr Cyflawniad Academaidd
- Gwobr Seren Ddisglair
Llenwch y ffurflen enwebu hon, a rhannwch stori eich enwebai gyda'r tîm Dysgu a Datblygu erbyn 2 Awst.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y gwobrau ar y fewnrwyd
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â'r Tîm Dysgu a Datblygu.