Arolwg Ymgysylltu â Staff 2024
17 awr yn ôl
![](/media/nyniflr5/staff-voice.png)
Rhowch eich barn yn ein trydydd arolwg blynyddol ymgysylltu â gweithwyr.
Dyma'ch cyfle i roi gwybod i ni sut beth yw gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin, ac yn bwysicach fyth, ein helpu i nodi meysydd sydd angen rhagor o waith.
Ni ddylai'r arolwg gymryd mwy na 10 munud i'w gwblhau a bydd pob ymateb yn gwbl ddienw. Gofynnwn i chi ateb y cwestiynau yn onest. Bydd yr arolwg yn cau ar 19 Gorffennaf.
Gallwch fynd i’r arolwg ar-lein o unrhyw ddyfais bersonol neu ddyfais yn perthyn i’r Cyngor, drwy’r ddolen isod.