Cynnig o 20% i staff y cyngor - Digwyddiad Red Warrior ym Mharc Gwledig Pen-bre, 30 Mehefin
50 diwrnod yn ôl
Gall staff y cyngor gael gostyngiad o 20% oddi ar y pedwerydd ras cwrs rhwystrau blynyddol ym Mharc Gwledig Pen-bre ddydd Sul, 30 Mehefin.
Mae'r digwyddiad, a drefnir gan Red Warrior Events, yn llawn hwyl i BAWB, p'un a ydych chi'n rhedeg, cerdded neu'n cropian.
Dyma'r amserau dechrau:
- 10am - Ras Elît
- 10.30am - Prif rasys 5k a 10k (ar gyfer rhedwyr unigol neu dimau o 3)
- 1.30pm - Ras plant 2k
I gael gostyngiad o 20% ar bob ras, defnyddiwch y côd RWEB wrth dalu ar-lein: www.redwarrior.co.uk