Cyfarwyddyd i weithwyr yn ystod y cyfnod sy'n arwain at yr etholiad

7 diwrnod yn ôl

Bydd Etholiad Cyffredinol y DU yn cael ei gynnal ddydd Iau, 4 Gorffennaf, 2024.

Daw'r cyfnod cyn yr etholiad i rym ddydd Gwener, 31 Mai 2024, cymerwch y cyfle i ymgyfarwyddo â'r canllawiau ac adolygu unrhyw gynlluniau sydd gennych yn ystod y cyfnod cyn Etholiad Cyffredinol y DU.

Yn ystod y cyfnod hwn mae angen i'r Cyngor sicrhau ei fod yn parhau'n ddiduedd - rhaid i'r holl aelodau a staff gymryd gofal ychwanegol i sicrhau bod y Cyngor yn cymryd safiad niwtral ac nad yw'n rhoi amlygrwydd na chyhoeddusrwydd i unrhyw ymgeisydd neu barti penodol

Er mwyn cefnogi'r aelodau a'r staff yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi cytuno ar brotocol ar gyfer y cyfnod cyn Etholiad Cyffredinol y DU.

Mae'r protocol yn ymdrin â materion fel cyhoeddusrwydd, digwyddiadau, cyhoeddiadau a briffiau, a sut y dylid rheoli'r rhain yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.

Mae hefyd yn cynghori ynghylch defnyddio adnoddau'r cyngor, gohebiaeth ag ymgeiswyr, cyfarfodydd a defnyddio adeiladau'r cyngor.

Sylwer bod y canllawiau'n berthnasol i holl aelodau'r Cyngor, gweithwyr a chontractwyr sy'n gwneud gwaith ar ran y cyngor.

Darllenwch y canllawiau cyn yr etholiad