Sioeau Teithiol y Gaeaf i Staff

36 diwrnod yn ôl

Dewch draw i un o sioeau teithiol y gaeaf i staff yn ystod yr wythnosau nesaf.

•    3, Heol Spilman (Atriwm) ddydd Mercher, 20 Tachwedd rhwng 12 - 2pm.
•    Neuadd San Pedr, Caerfyrddin ddydd Mawrth, 26 Tachwedd rhwng 11.30am - 12.45pm

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
    Gostyngiadau a buddion staff gwych sydd ar gael i chi
    Polisïau cyflogaeth neu gymorth o ran cael mynediad i slipiau cyflog ar-lein
    Eich pensiwn
    Sut i ddysgu/gwella eich sgiliau Cymraeg a Digidol 
    Ein prosiect Trawsnewid a sut y gallwch gymryd rhan 
    Cymorth TGCh i ateb unrhyw un o'ch ymholiadau technegol
    Beth rydyn ni'n ei wneud ar ein taith i Sero Net 
    Pa gymorth iechyd a llesiant sydd ar gael i chi
Bydd hefyd yn gyfle i chi gwrdd a sgwrsio â chydweithwyr mewn amgylchedd hamddenol. 

Gofynnir i reolwyr gefnogi staff sydd am fod yn bresennol i alw heibio yn ystod oriau gwaith, lle bo hynny'n bosibl.

Cadwch lygad am ragor o wybodaeth am ein sioeau teithiol a gynhelir yn ystod gwanwyn 2025 yn y Flwyddyn Newydd.