Bod yn rhan o'n hadolygiad arolwg staff ac arfarnu

4 diwrnod yn ôl

Rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu i gael rhagor o adborth yn dilyn canlyniadau ein trydydd arolwg staff.

Dyma'ch cyfle i roi gwybod i ni sut beth yw gweithio i'r Cyngor, ac yn bwysicach byth, ein helpu i ddysgu ble mae angen i ni wella.

Rydyn ni am siarad â staff am ein harolwg staff blynyddol a sut rydyn ni’n cynnal arfarniadau rhwng dydd Llun 28 Ebrill a dydd Gwener 9 Mai.

Os hoffech chi ddweud eich dweud, llenwch y ffurflen isod a byddwn ni’n cysylltu i drefnu dyddiad ac amser addas i siarad â chi.

Cwblhewch y ffurflen yma