Her Ffotograffiaeth y Gwanwyn
4 diwrnod yn ôl
Mae'r gwanwyn yma, ac rydym yn eich gwahodd i ddangos harddwch Sir Gaerfyrddin yn ystod y tymor adfywiol hwn ar gamera. Nod yr her yw tynnu llun golygfaol yn y sir tra'n mwynhau awyr iach, ymarfer corff, a harddwch blodeuol y gwanwyn rhwng 11 Ebrill a 25 Ebrill, 2025.
Gwobr:
Bydd y ffotograff buddugol yn cael ei gynnwys fel un o'n cefndiroedd thematig Teams i'r holl staff ei ddefnyddio.
Edrychwch ar y canllawiau isod i'ch helpu i dynnu'ch ffotograff gorau.
Meini Prawf Beirniadu:
- Y WAW ffactor – ydy'r llun yn arddangos y sir mewn golau cadarnhaol ac yn arddangos y lle rydych chi'n mynd fel rhan o'ch llesiant.
- Cyfansoddiad a sgìl y llun.
Ychydig o ganllawiau ar gyfer tynnu lluniau:
- Os oes modd deall pa neges mae'r ffotograff yn ei chyfleu dim ond wrth edrych ar y llun, mae wedi cyflawni ei ddiben.
- Rhaid peidio â chynnwys pobl yn y llun.
- Dylai popeth yn y llun fod yn berthnasol. Ceisiwch osgoi cefndiroedd anniben a delweddau disglair sy'n medru tynnu sylw.
- Edrychwch o'ch amgylch ac ystyriwch eitemau neu eirfa ar arwyddion y gellir eu defnyddio mewn modd negyddol.
- Ceisiwch osgoi rhesi a defnyddiwch onglau amrywiol yn lle hynny. Bydd rhesi croeslinol yn rhoi mwy o ddyfnder i lun. Gall sefyll ar arwyneb uwch neu benglinio roi gwell dewisiadau i chi hefyd.
- Meddyliwch am leoliadau, goleuadau ac amseru – e.e., ni fydd lluniau awyr agored ddiwedd y prynhawn yn ystod y gaeaf yn gweithio.
- Tynnwch ddetholiad o luniau i roi dewis i chi'ch hun.
- Anfonwch lun ar ffurf jpeg.
Gwnewch yn siŵr ei fod ar ffurf jpeg. Bydd yr holl gynigion yn cael eu huwchlwytho yn wythnosol i'n tudalennau mewnrwyd fel y gall staff eu gweld.
I gyflwyno'ch llun, cwblhewch y Ffurflen hon.
Pob lwc a joiwch ddarganfod Sir Gaerfyrddin y gwanwyn hwn! 🌸
Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau Digwyddiadau a Gweithgareddau.
Erthygl gan: Health and Wellbeing Team