Symleiddio Arian gyda Salary Finance

1 diwrnod yn ôl

Wrth i Fis Ymwybyddiaeth Straen ddod i ben, mae'n werth cofio bod straen ariannol yn aml yn cael ei achosi gan ansicrwydd sut i reoli arian. Os ydych chi erioed wedi teimlo bod eich sefyllfa ariannol yn ormod i chi neu'ch bod chi ar ei hôl hi, dydych chi ddim ar ben eich hun.

Does dim rhaid i ddeall eich arian fod yn gymhleth, ac mae digon o adnoddau i'ch helpu i wneud synnwyr o'r cyfan.

I ddechrau, edrychwch ar Learn platform Salary Finance, sy'n cynnwys:

        Fideos a ffrydio byw: Cynnwys diddorol i'ch helpu i ddeall materion ariannol pwysig mewn ffordd fwy rhyngweithiol.

        Cynnwys byr: Blogiau ac erthyglau byr sy'n cymryd llai na 5 munud o'ch amser, perffaith ar gyfer dysgu'n gyflym.

        Offer a chyfrifianellau: Offer defnyddiol i gadw llygad ar eich cyllid, gan gynnwys y Better Off Calculator, a allai eich helpu i ddod o hyd i'r cymorth y mae hawl gyda chi ei gael gan y llywodraeth. 

        Awgrymiadau rheoli dyled: Atebion a strategaethau syml i'ch helpu i reoli a lleihau dyled heb y straen.

Beth am edrych sut arall y gall Salary Finance eich helpu? Mae hyn yn cynnwys: benthyciadau fforddiadwy. Dysgwch ragor drwy ymweld â hwb Salary Finance.

Pwysig:  Opsiwn yw hwn, nid argymhelliad. Nid yw eich cyflogwr yn elwa ar gynnig y gwasanaeth hwn a bydd eich holl gyfathrebiadau gyda Salary Finance.  Bydd ceisiadau am fenthyciadau yn cael eu hasesu i sicrhau bod y benthyciad yn briodol ac yn fforddiadwy i chi. Mae'r cynnwys "dysgu" at ddibenion addysgol ac i roi arweiniad yn unig ac mae'n gyffredinol ei natur. Nid yw Salary Finance yn cynnig cyngor ariannol rheoledig. Ceisiwch gyngor ariannol annibynnol.