DIWEDDARIAD - Neuadd y Sir - gwaith cynnal a chadw Awst 2025
2 diwrnod yn ôl
Yn dilyn trafodaethau â'n darparwr trydan, rydyn ni wedi cael gwybod bod yn rhaid gwneud gwaith hanfodol i osod mesuryddion newydd ddydd Iau, 14 Awst. Mae hyn yn golygu bod angen diffodd yr holl bŵer yn Neuadd y Sir.
O ganlyniad, bydd yr adeilad ar gau i'r holl staff ddydd Iau, 14 Awst a dydd Gwener, 15 Awst. Er ein bod yn gobeithio ailagor ar y 15 os bydd y gwaith yn cael ei gwblhau'n gynnar, dylai'r holl staff wneud cynlluniau ar y ddealltwriaeth y bydd yr adeilad ar gau am y ddau ddiwrnod.
Dylai pob cydweithiwr wneud trefniadau i weithio gartref neu mewn swyddfa arall lle bo hynny'n bosibl yn ystod y ddau ddiwrnod hyn. Bydd pethau nôl i'r arfer ddydd Llun, 18 Awst.
Bydd rheolwyr yn cysylltu'n uniongyrchol ag unrhyw aelodau o'r tîm y mae eu presenoldeb ar y safle yn cael ei ystyried yn hanfodol yn ystod y cyfnod hwn.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra sy'n cael ei achosi yn ystod y gwaith hanfodol hwn a diolch i chi am eich cydweithrediad parhaus. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhoi os bydd yr amgylchiadau'n newid.