Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi – dysgwch Gymraeg gyda 'Cymraeg Gwaith'

21 diwrnod yn ôl

Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, rydym yn falch iawn o lansio'r rhaglen Cymraeg Gwaith ar gyfer 2025!

Mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu Cymraeg ochr yn ochr â chydweithwyr mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol o fewn y Cyngor. P'un a ydych chi newydd ddechrau neu eich bod am ddatblygu eich sgiliau, mae cwrs ar eich cyfer chi!

Bydd y cyrsiau wythnosol hyn yn cael eu cynnal tan fis Ebrill 2026, gan roi digon o amser i chi fagu hyder a defnyddio'r Gymraeg yn eich gwaith a'ch bywyd bob dydd.

Dyddiadau'r Cwrs:

Cymraeg Gwaith – Sylfaen

Ar ddydd Iau, yn dechrau ar 03/04/2025, 9:30 - 12:30

Mae'r lefel hon yn gwella'r hyn a ddysgwyd yn y lefel Mynediad er mwyn dysgu holl batrymau sylfaenol y Gymraeg.

Cymraeg Gwaith – Canolradd 

Ar ddydd Gwener, yn dechrau ar 04/04/2025, 9:30 - 12:30

Mae'n addas ar gyfer y rhai sy'n gyfarwydd â phrif batrymau'r Gymraeg. Mae ychydig mwy o ysgrifennu, darllen a gwrando i'w wneud ar y lefel hon.

Cymraeg Gwaith – Uwch 

Ar ddydd Mercher, yn dechrau ar 02/04/2025, 9:30 - 12:30

Byddwch yn trafod pob math o bynciau a themâu ar y lefel hon. Y prif nod yw creu siaradwyr hyderus. 

Cofrestrwch nawr! Cofrestrwch yma
Dyddiad Cau: 14 Mawrth 2025

Darganfyddwch y Gymraeg gydag Ieithgar ar Thinqi!

Ochr yn ochr â'n rhaglen Cymraeg Gwaith, rydym hefyd yn lansio Ieithgar ar Thinqi, sef ein System Rheoli Dysgu newydd! Mae'r adnodd hwn yn llawn fideos difyr i'ch helpu i ddeall dwyieithrwydd ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg mewn ffordd hwyliog a hygyrch.

Cwrs Croeso:

Mae'n berffaith ar gyfer dechreuwyr llwyr neu i roi hwb i'ch hyder cyn ymuno â chwrs. Dysgwch sut i ynganu enwau lleoedd lleol a rhoi croeso cynnes Cymreig i bobl.

Cwrs Gloywi:

Oes angen eich atgoffa am dreigladau, geiriau bach anodd, a phryd i'w defnyddio? Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer gwella eich Cymraeg a dod yn fwy rhugl.

Mewngofnodwch nawr i archwilio pob peth Cymraeg! Thinqi – Ieithgar

P'un a ydych chi newydd ddechrau neu eich bod am fireinio eich sgiliau, mae rhywbeth ar gael i bawb - felly beth am roi cynnig arni?

Mae hyd yn oed camau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr - ceisiwch wrando ar gerddoriaeth neu bodlediadau Cymraeg, gwylio fideo ar YouTube, neu ddarllen ychydig bach o Gymraeg bob dydd. Rhowch gynnig arni!

I gael rhagor o wybodaeth am lefelau Cymraeg a'n hymrwymiad, ewch i'r fewnrwyd neu er mwyn sgwrsio â Kelly Morris, ymgynghorydd dysgu a datblygu ar gyfer y Gymraeg, trefnwch apwyntiad yma.