Rhaglen Arweinwyr y Dyfodol LHDTC+
10 diwrnod yn ôl
Mae rhaglen Arweinwyr y Dyfodol LHDTQ+ Stonewall Cymru yn dychwelyd i Gaerdydd ar 27 Chwefror 2025 rhwng 9.30am a 4.30pm.
Mae wedi’i chynllunio ar gyfer unigolion 22-30 oed, ac mae rhaglen Arweinwyr y Dyfodol ar gyfer LHDTC+ Stonewall Cymru yn grymuso pobl LHDTC+ o bob rhan o Gymru i ddatblygu eu dealltwriaeth o sut mae ein hunaniaethau'n llywio ein profiadau, a sut y gallwn greu amgylcheddau cynhwysol lle gall pob unigolyn LHDTC+ ffynnu.
Mae'r rhaglen am ddim. Bydd cinio a lluniaeth yn cael eu darparu.
Croesewir ceisiadau gan bob person LHDTC+. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 13 Chwefror 2025.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod drwy neges e-bost 10 diwrnod cyn y rhaglen.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen, anfonwch neges e-bost i programmes@stonewallcymru.org.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais yma.