Tymor y Grawys

1 diwrnod yn ôl

Eleni mae'r tymor ymprydio ar gyfer y Grawys yn dechrau ar 2 Mawrth, sef y diwrnod ar ôl Dydd Mawrth Ynyd, a elwir hefyd yn Ddiwrnod Crempog. Mae'r Grawys yn gyfnod o 6 wythnos neu 40 diwrnod (nad yw'n cynnwys dyddiau Sul) sy'n parhau hyd nes 14 Ebrill. Mae'n cael ei gynnal yn y Gwanwyn, pan fo'r dyddiau'n ymestyn.

Beth yw grawys?

Grawys yw'r tymor 40 diwrnod sy'n helpu pobl i gael gwared ag arferion gwael a datblygu rhai da, yn debyg i addunedau'r flwyddyn newydd neu her 30 diwrnod.

Ystyrir y grawys yn aml fel a ganlyn:

  • Tymor o wella eich hunan
  • Cyfnod i gael gwared ag arferion gwael neu wendid
  • Cyfnod o hunanfyfyrio

Bydd llawer ohonoch yn treulio'r amser hwn yn profi eich ewyllys a'ch hunanddisgyblaeth drwy roi'r gorau i rai o'ch hoff fwydydd neu eich gwendidau. Cyn i chi roi'r gorau i rywbeth, ystyriwch "beth" a "pham”; er enghraifft, efallai y byddwch yn penderfynu rhoi'r gorau i fwydydd penodol neu rywbeth rydych wedi bod yn orymblesera ynddo yn ddiweddar. Gall hyn gynnwys siocledi, creision, alcohol neu hyd yn oed amser sgrin neu amser yn gwylio'r teledu gyda'r nos.

Mae astudiaethau'n dangos, er ei bod yn cymryd tua 21 diwrnod o fynd ati'n ymwybodol ac yn gyson i greu arfer newydd, mae'n cymryd rhagor o amser i dorri arfer sy'n bodoli eisoes.

Fel arall, yn hytrach na chael gwared â gwendid, beth am wneud y canlynol:

  • Rhowch gynnig ar rywbeth newydd neu dechreuwch hobi newydd
  • Defnyddiwch y cyfnod i helpu eich hun neu eraill, er enghraifft drwy ymgorffori'r 5 cam at lesiant meddyliol yn eich trefn ddyddiol
  • Rhowch gynnig ar fyfyrio bob dydd drwy Viva Insights ar Teams

Os gallwch ddatblygu hunanreolaeth yn hytrach na gadael i demtasiynau gael y gorau ohonoch, mae amrywiaeth o fanteision cymdeithasol, gan wella eich iechyd meddwl a'ch llesiant yn gyffredinol.

Gweler ein tudalennau mewnrwyd lle ceir amrywiaeth o gyngor ynghylch llesiant corfforol a meddyliol i'ch cynorthwyo.

Erthygl gan: Tim Iechyd a Llesiant