Y Tîm Iechyd a Llesiant
8 diwrnod yn ôl
Mae'r Tîm Iechyd a Llesiant yma i gefnogi llesiant corfforol a meddyliol ein staff yn ogystal â chynnig atebion ymarferol â ffocws i reolwyr. Wrth wneud hynny, ein nod yw helpu i amddiffyn ein gweithlu a'r awdurdod yn y dyfodol agos a'r tymor hir.
Mae ein Cydgysylltwyr Iechyd a Llesiant yn darparu amrywiaeth o adnoddau ar ein tudalennau Iechyd a Llesiant ar y fewnrwyd ac yn eich cyfeirio at ragor o wybodaeth, ac rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o sicrhau bod y cynnwys a ddarparwn yn ddefnyddiol ac yn berthnasol i bawb.
A wyddech chi ein bod yn darparu'r canlynol?
- Mae gennym grwpiau Iechyd a Llesiant ar draws pob adran. Fel rhan o'r grwpiau hyn rydym yn rhoi cymorth a chyngor i reolwyr i ddatblygu cynlluniau gweithredu a rhoi ymyriadau ar waith, trefnu arolygon llesiant a datblygu Siarteri Llesiant.
- Rhoi cyngor ar ffordd o fyw, arweiniad a chyfeirio o ran pynciau amrywiol.
- Rhoi cyflwyniadau a gweithdai mewn perthynas â llesiant.
- Recriwtio, hyfforddi a chefnogi rhwydwaith o Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant a Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl.
- Datblygu a chefnogi mentrau hybu iechyd yn unol â dyddiau a digwyddiadau iechyd a llesiant cenedlaethol.
- Cynnal e-sgyrsiau a digwyddiadau a gweithgareddau eraill mewn perthynas ag iechyd meddwl i barhau i godi proffil iechyd meddwl a lleihau'r stigma iechyd meddwl ar draws yr awdurdod.
- Cynnal heriau iechyd a llesiant corfforaethol drwy gydol y flwyddyn, fel Her Camau'r Gwanwyn, (cyn bo hir).
Gallwch hefyd gael cymorth a chyngor drwy gysylltu ag un o'ch Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant. Mae gennym dros 70 o Hyrwyddwyr sy'n gallu cefnogi, annog ac ysbrydoli cydweithwyr ar bynciau Iechyd a Llesiant mewn ffordd anffurfiol.
Ar hyn o bryd mae gennym hefyd dîm o dros 100 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ar draws yr awdurdod sy'n gallu cynnig cymorth ichi. Mae ganddynt y gallu i ddarparu cymorth cychwynnol, clust anfeirniadol, empathetig ac yn gallu cyfeirio rhywun yn hyderus at gymorth priodol, yn fewnol ac yn allanol. Mae ganddynt hefyd y gallu i ddelio ag argyfyngau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, pryderon neu awgrymiadau sy'n gysylltiedig â llesiant, cysylltwch â'r Tîm Iechyd a Llesiant yn gyfrinachol drwy'r ffurflen gyswllt ar-lein. Gallwch hefyd anfon neges e-bost atom: iechydallesiant@sirgar.gov.uk
Bydd cyngor a chymorth yn cael eu darparu'n bennaf dros y ffôn, ar e-bost ac ar Microsoft Teams, ynghyd ag wyneb yn wyneb pan fydd angen.
Fe welwch fwy o wybodaeth ar ein tudalennau Iechyd a Llesiant
Cyflwynwyd yr erthygl hon gan: Y Tîm Iechyd a Llesiant