Her Ystyried Cyn Yfed

1 diwrnod yn ôl

I lawer mae mynd yn hollol sobr am fis yn rhy heriol neu gall wneud iddynt yfed hyd yn oed yn fwy ar ôl i'r mis ddod i ben. Fodd bynnag, os yw eich lefelau yfed wedi cynyddu, eich bod yn cael llai o ddiwrnodau heb alcohol, a'ch bod yn yfed mwy o ddiodydd pan fyddwch chi'n yfed... efallai ei bod yn bryd i chi gymryd rheolaeth yn ôl.

Cymerwch ran yn Her Ystyried Cyn Yfed Cyngor Sir Caerfyrddin…

Nod yr her
I leihau diwrnodau yfed a faint rydych chi'n ei yfed dros gyfnod o 4 wythnos (a thu hwnt gobeithio).

Yr Her
Yfed ar lai na 6 achlysur dros mis Ionawr, gan yfed llai na 4 uned ar bob achlysur.

Sut mae'n gweithio
1. Lawrlwythwch ap Dry Days gan AlcoChange.
2. Ganiatáu i'r ap roi hysbysiadau i chi, byddwch yn cael eich atgoffa i gofnodi faint rydych chi'n ei yfed.
3. Cwblhewch eich proffil yfed presennol.
4. Bob dydd, defnyddiwch y tab 'My progress' i gofnodi a ydych wedi cael diod ac os felly, beth.
5. Anfonwch lun o'ch calendr yn dangos pa mor dda rydych chi wedi'i wneud, yn ogystal â faint rydych chi wedi'i gynilo (dewisol!)

Cynghorion
• Ystyried cyn yfed – os ydych chi'n mynd i wahanol bartion, gweithiwch allan pryd y byddwch chi'n yfed ac efallai y gallwch gynnig bod yn yrrwr i'r lleill.
• Meddyliwch am yr hyn rydych chi'n mynd i'w yfed yn lle alcohol. Yn aml os nad ydych chi'n yfed o gwmpas eraill, yr 1 neu'r 2 ddiod gyntaf sydd fwyaf anodd ac ar ôl hynny bydd yn haws.
• Sicrhewch fod gennych rai dewisiadau heb alcohol wrth law pan fydd chwant diod arnoch.
• Gofynnwch i gydweithiwr, aelod o'r teulu neu ffrind wneud yr her gyda chi.
• Wrth yfed, cadwch at ddiodydd fel jin sengl a thonig sy'n un uned, gan gael diodydd meddal neu ddŵr rhyngddynt.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am leihau eich defnydd o alcohol, ewch i'n tudalennau mewnrwyd neu wefan Alcohol Change UK.

 

Erthygl gan: Tim Iechyd a Llesiant