Mis Mentora
1 diwrnod yn ôl
I'r rhan fwyaf ohonom, nid yw'r llwybr at lwyddiant gyrfa yn un rydym yn ei ddilyn ar ein pen ein hunan. Mae eraill wedi helpu i gynghori, hyfforddi a llunio ein datblygiad proffesiynol. Mae pob un ohonom wedi cael o leiaf un person sydd wedi cymryd siawns arnom ni, wedi credu ynom ni, ac wedi buddsoddi yn ein dyfodol. Dyna pam mae mentora eraill yn ffordd mor foddhaus o roi i eraill yr hyn a gawsoch chi a chynnig yr un gefnogaeth ac arweiniad ag y cynigiodd rhywun i chi ar un adeg.
Ym mis Ionawr, ar gyfer mis mentora, beth am gael golwg ar ein e-ddysgu Canllaw i Fentora Eraill i ddarganfod beth yw mentora a beth mae mentoriaid yn ei wneud? Os yw'n eich ysbrydoli i ddod yn fentor, cysylltwch â'r Tîm Dysgu a Datblygu i gael rhagor o wybodaeth.
Fel arall, os hoffech ddarganfod mwy am sut y gallai gweithio gyda mentor eich helpu yn eich datblygiad, ewch i'r dudalen Hyfforddi a Mentora ar y fewnrwyd.