Seminar digidol blynyddol staff

12 awr yn ôl

Mae'r Gwasanaethau Digidol yn cynnal y seminarau digidol blynyddol i staff ym mis Chwefror.

Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle i gysylltu a chwarae rhan hollbwysig yn llunio'r gwaith a'r blaenoriaethau ym meysydd digidol, data a thechnoleg ledled Sir Gaerfyrddin. Mae mewnwelediad a mewnbwn staff yn amhrisiadwy, felly byddai eich presenoldeb a'ch cyfranogiad yn cael ei werthfawrogi'n fawr.

·       Dydd Iau, 6 Chwefror: 1.30pm – 4.30pm yn Neuadd y Dref, Llanelli

·       Dydd Gwener, 7 Chwefror: 9.30am – 12.30pm yn y Siambr yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin

Mae staff yn cael eu hannog i fynd yno er mwyn cael y profiad llawn, ond bydd modd cyfranogi'n rhithwir ddydd Gwener, 7 Chwefror.

Llenwch y ffurflen gofrestru fer hon i gadw eich lle.

Cofrestrwch yma