Academi Arweinyddiaeth
10 awr yn ôl
Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer rhaglen Academi Arweinyddiaeth sy'n dechrau ym mis Medi 2025!
Mae'r Academi hon yn dwyn arweinwyr ynghyd ar wahanol gyfnodau o'u gyrfaoedd. Mae'r rhaglenni yn yr academi wedi'u dylunio i ddarparu annibyniaeth, hyder a set gref o sgiliau arwain a fydd yn dod â'r gorau allan ohonoch chi ac aelodau eich tîm; ymdrechu fel un i sicrhau gwasanaeth sy'n bodloni anghenion ein cymuned yn llawn.