Cadw mewn Cysylltiad: Grwpiau Hobïau a Diddordebau
22 diwrnod yn ôl
Gall gwneud gweithgareddau gyda pobl o'r un meddylfryd helpu i'w gwneud yn hwyl, rhoi trefn i'ch diwrnod, eich gwneud yn atebol yn ogystal â'ch helpu i gadw mewn cysylltiad. Bydd yn helpu i'n cadw'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol ac yn rhoi egni a ffocws i ni.
Felly,rydym am gasglu syniadau gan y rhai ohonoch sydd eisoes wedi creu clybiau llyfrau, grwpiau cerdded rhithwir, clybiau gwau, siediau dynion, grwpiau dawnsio, grwpiau cwisiau, naill ai yn eich tîm neu'n ehangach. Wedyn gallwn naill ai ddefnyddio'r syniadau hyn i ysbrydoli eraill i sefydlu rhywbeth tebyg gyda'u timau/ffrindiau, neu, os ydych yn hapus i eraill ymuno â chi, cynyddu nifer eich aelodau.
Hoffem glywed gennych hefyd os oes gennych ddiddordeb arbennig ac os hoffech sefydlu grŵp eich hun, ond ddim yn gwybod ble i ddechrau na gyda phwy i gysylltu. Gyda'r wybodaeth hon byddwn yn ceisio eich paru â phobl o'r un meddylfryd a all eich helpu i ddechrau arni.
I gymryd rhan, llenwch y ffurflen fer hon: Grwpiau Diddordebau Staff.
I gael mwy o awgrymiadau ynghylch cadw'n iach, ewch i'n tudalennau Iechyd a Llesiant.
Erthygl gan: Tim Iechyd a Llesiant