Digwyddiad Dathlu Iechyd a Llesiant
13 awr yn ôl
Mae Cymorthwyr Cyntaf Iechyd Meddwl a Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant yn chwarae rhan pwysig o fewn y cyngor drwy hyrwyddo diwylliant gweithle cefnogol, cynhwysol ac iach. Mae'r unigolion hyn wedi'u hyfforddi i adnabod arwyddion cynnar o broblemau iechyd meddwl, darparu cefnogaeth gychwynnol, ac arwain cydweithwyr tuag at gymorth proffesiynol priodol. Mae eu presenoldeb yn helpu i leihau stigma ynghylch iechyd meddwl ac yn annog sgyrsiau agored, gan feithrin gweithlu mwy gwydn. Mae Hyrwyddwyr Llesiant yn ategu hyn drwy cefnogi mentrau corfforaethol, hyrwyddo dewisiadau ffordd o fyw iach, trefnu gweithgareddau llesiant, ac annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.
Ar Ddydd Mercher 18 Mehefin, fe wnaethom ddathlu cyfraniadau pwysig y rolau hyn gyda digwyddiad arbennig a fynychwyd gan gynrychiolydd o Weithredu Gorllewin Cymru dros Iechyd Meddwl a'r Prif Weithredwr Cynorthwyol, Paul Thomas. Fel y dyfynnodd Paul “Mae heddiw yn ymwneud â chydnabod pob un ohonoch chi—a'r gwaith rydych chi'n ei wneud bob dydd i hyrwyddo llesiant ar draws y sefydliad. Gyda'ch gilydd, rydych chi'n helpu i adeiladu diwylliant lle gall pobl ffynnu, a lle mae iechyd a llesiant wrth wraidd popeth a wnawn.” Mae'r gydnabyddiaeth hon yn tynnu sylw at y gwerth a roddwn ar lesiant ar draws y cyngor.
Erthygl gan: Tim Iechyd a Llesiant