Gweithio'n ddiogel yn yr haul
9 diwrnod yn ôl
Os yw eich gwaith yn golygu eich bod yn treulio llawer o'ch amser yn yr awyr agored, mae angen ichi geisio osgoi salwch sy'n gysylltiedig â gwres megis llosg haul, cramp gwres, blinder gwres, a thrawiad gwres. Isod mae rhywfaint o gyfarwyddyd a chyngor ynghylch sut mae osgoi hyn.
Beth allwch chi ei wneud i ddiogelu eich hun?
- Cadwch eich dillad amdanoch – gwisgwch ddillad sy'n eich amddiffyn rhag yr haul megis crysau llewys hir a throwsus hir.
- GWISGWCH EICH CYFARPAR DIOGELU PERSONOL - RHAID GWISGO HETIAU CALED A SIACEDI LLACHAR BOB AMSER (fel yr amlinellir yn yr asesiadau risg)
- Lle bo'n bosibl arhoswch yn y cysgod pan fyddwch ar egwyl, yn enwedig amser cinio.
- Os yw'n ddiogel gwneud hynny ac nad yw'n torri unrhyw reolau safle neu ofynion asesiad risg, gallwch dynnu cyfarpar diogelu personol yn ystod egwyliau i'ch helpu i oeri.
- Defnyddiwch eli haul (gan wneud hynny ryw 20–30 munud cyn mynd allan) ar unrhyw groen sydd yn y golwg. Dylech fod yn hynod ofalus os oes gennych frychni haul neu groen golau nad yw'n troi'n frown, neu sy'n cochi neu'n llosgi cyn troi'n frown; gwallt golau neu goch a llygaid lliw golau; a llawer o fannau duon;
- Yfwch ddigon o ddŵr neu ddiodydd oer i osgoi dadhydradu. Wrth weithio'n galed mewn amodau lle mae straen gwres dylai gweithwyr yfed tua 250 ml (hanner peint) bob 15 munud neu 500 ml (peint) bob 30 munud.
- Cadwch olwg ar eich croen yn rheolaidd am unrhyw smotiau neu fannau duon anarferol. Ewch at y meddyg yn syth os dewch o hyd i unrhyw beth sy'n newid siâp, maint, yn cosi neu'n gwaedu.
- Cadwch lygad am symptomau cynnar o straen gwres a chadwch lygad barcud ar gydweithwyr am arwyddion o salwch gwres. Ymhlith y symptomau arferol y mae:
- Methu â chanolbwyntio;
- Cramp yn y cyhyrau;
- Brech gwres;
- Syched difrifol – un o symptomau hwyr straen gwres;
- Llewygu;
- Blinder gwres – blinder, pendro, teimlo'n gyfoglyd, pen tost, croen llaith;
- Trawiad gwres – croen sych a thwym, dryswch, confylsiynau, ac yn y pen draw mynd yn anymwybodol;
- Os ydych yn ansicr beth i'w wneud, ffoniwch 999 i gael cymorth.
Rhowch wybod i'ch goruchwyliwr neu'ch rheolwr llinell am unrhyw bryderon.
Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy ddilyn y dolenni isod: