Cerdded, chwerthin, cystadlu – cofrestrwch ar gyfer digwyddiad Pêl-droed merched
21 awr yn ôl
Galwad i holl aelodau benywaidd staff Cyngor Sir Gaerfyrddin!
Beth am greu tîm gyda chydweithwyr a chymryd rhan yng Nghystadleuaeth Pêl-droed Cerdded 5-bob-ochr Merched Actif?
⚽ Dyddiad: Dydd Iau 19 Mehefin
🕕 Amser: 6–8 YH
📍 Lleoliad: Canolfan Hamdden Caerfyrddin (Cae Astro)
📅 Dyddiad cau cofrestru: 16 Mehefin
🔗 Cofrestrwch yma: Cofrestru tîm | Team Registration
Does dim angen unrhyw brofiad – dim ond esgidiau ymarfer a hwyliau da!
Pam cymryd rhan?
- 🧘 Gwella eich lles corfforol a meddyliol
- 🤝 Cryfhau cysylltiadau a chydweithio rhwng adrannau
- 🌟 Cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd a dathlu’r EUROs Merched
- 💬 Hwyl a chefnogaeth mewn amgylchedd hamddenol
Bydd y tîm buddugol yn cael gwahoddiad i fynychu seremoni ddathlu fel rhan o daith Ewros Cymdeithas Bêl-droed Cymru i Sir Gaerfyrddin nos Lun 23 Mehefin.
Dewch i symud gyda’n gilydd – mwynhewch y gêm hardd, ar gyflymder cerdded!