Paratowch ar gyfer sioe deithiol My Money Matters

1 diwrnod yn ôl

Bydd Sioe Deithiol My Money Matters yn dod i Gyngor Sir Caerfyrddin ar 17 a 18 Mehefin, gan gynnig cyfle i chi gwrdd â'r tîm a dysgu sut i roi hwb i'ch cronfa pensiwn. Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, mae'r gwasanaeth Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVC) yn helpu gweithwyr i roi hwb i'w cynilion ymddeol, a hynny drwy gynllun treth-effeithlon sy'n cael ei reoli'n llawn, yn cydymffurfio ac yn hawdd i'w weithredu

Ymunwch â nhw:

Dydd Mawrth, 17 Mehefin:

Neuadd y Sir, Caerfyrddin (Ystafell Bwyllgorau 3) rhwng 9am a 12pm:

Dewch i gwrdd â chynrychiolydd o My Money Matters i ddysgu am yr hyn maen nhw'n ei gynnig. Byddan nhw'n rhoi cymorth ac yn ateb eich cwestiynau! Galwch heibio i wybod mwy.

Ystafell Gyfarfod Depo Cillefwr (1-2pm):

Dysgwch fwy am y cynllun Rhannu Cost AVC sydd ar gael drwy'r Hyfforddwyr Addysg Ariannol. Bydd y sesiwn yn para awr, gydag amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb. Galwch heibio i wybod mwy.

Dydd Mercher, 18 Mehefin:

Tŷ Elwyn Llanelli (Ystafell Gyfarfod Llawr Gwaelod 011) rhwng 9am a 12pm:

Dewch i gwrdd â chynrychiolydd o My Money Matters i ddysgu am yr hyn maen nhw'n ei gynnig. Byddan nhw'n rhoi cymorth ac yn ateb eich cwestiynau! Galwch heibio i wybod mwy.

Ystafell Gyfarfod Depo Trostre (1-2pm):

Dysgwch fwy am y cynllun Rhannu Cost AVC sydd ar gael drwy'r Hyfforddwyr Addysg Ariannol. Bydd y sesiwn yn para awr, gydag amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb. Galwch heibio i wybod mwy.

Cymorth un-i-un:

Gall aelodau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol hefyd archebu slot 20 munud ymlaen llaw am gymorth un-i-un gyda Hyfforddwr Addysg Ariannol ynglŷn â'u cynllun pensiwn a'u cynllun Rhannu Cost AVC. Bydd angen i chi archebu eich sesiwn 1-1 ymlaen llaw. Cliciwch yma i archebu slot *dolen*

17 Mehefin - Neuadd y Sir Caerfyrddin yn Ystafell Bwyllgora 5 (rhwng 9am-12pm)

Cliciwch yma i archebu slot:

https://mymoneymatters.ws/CountyHall25

18 Mehefin - Tŷ Elwyn Llanelli yn Ystafell Gyfarfod 2 ar y Llawr Gwaelod (rhwng 9am-12pm)

Cliciwch yma i archebu slot:

https://mymoneymatters.ws/TyElwynLlanelli25 

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno, ond peidiwch â phoeni os na allwch drefnu'r amser o'r gwaith i fynd i'r sesiynau hyn, bydd My Money Matters yn ôl cyn hir! Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i https://www.my-money-matters.co.uk/

Sylwer, mae cynllun Rhannu Cost AVC ar gael i aelodau gweithredol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn unig.