Wythnos y Lluoedd Arfog 2025
4 diwrnod yn ôl
22-28 Mehefin yw Wythnos y Lluoedd Arfog - cyfle i ddangos ein cefnogaeth i'r dynion a'r menywod sy'n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog: y rhai sy'n gwasanaethu nawr, cyn-aelodau a chadetiaid.
Bydd baneri'n cael eu chwifio yn Neuadd y Sir ynghyd â neuaddau tref Rhydaman a Llanelli yn ystod yr wythnos.
Yn ystod yr wythnos hon rydym hefyd yn dathlu Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn (25 Mehefin) a Diwrnod y Lluoedd Arfog (ddydd Sadwrn, 28 Mehefin).
Ar Ddiwrnod y Lluoedd Wrth Gefn (25 Mehefin), bydd ein Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog, Hayley Edwards, sydd hefyd yn Filwr Wrth Gefn, yn sôn am ei phrofiadau yn y Fyddin Wrth Gefn a'i gyrfa sifil gyda'r Cyngor.
Ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog (28 Mehefin) bydd y Cynghorydd Philip Hughes yn derbyn Baner y Lluoedd Arfog mewn seremoni yng Nghil-y-coed yn barod i gynnal y digwyddiad yn Sir Gaerfyrddin yn 2026.
Mae Hayley Edwards, ein Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog ac aelod o'r Fyddin Wrth Gefn, wedi cael ei galw i wasanaethau am gyfnod o wyth mis ar gyfer Ymgyrch y Deyrnas Unedig, Op LAZURITE.
Mae'n Filwr Wrth Gefn gyda dros 30 mlynedd o wasanaeth, a chafodd Hayley ei chomisiynu i'r Corfflu Logisteg Brenhinol ym 1995 ac mae hefyd wedi gwasanaethu'n llawn amser am dair blynedd yn ystod ei gyrfa. Dyma'r ail dro iddi gael ei galw i wasanaethu o rôl sifil, sy'n dyst i'w gallu i addasu a'i hymroddiad diwyro i wasanaethu.
Wrth ystyried yr alwad i wasanaethu, dywedodd Hayley: "Er i ddechrau roeddwn i'n teimlo rhywfaint o bryder am fynd i wasanaethu roeddwn hefyd yn edrych ymlaen at yr her. Mae hwn yn gyfle anhygoel i ddysgu sgiliau newydd a defnyddio fy mhrofiad milwrol a sifil mewn ffordd ystyrlon.”
Mae rôl Hayley yn y Cyngor yn canolbwyntio ar gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog ac mae'n rheoli rhanddeiliaid a gweithio'n agos gyda Chymuned y Lluoedd Arfog ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro - ymrwymiad y mae'n ei adlewyrchu yn ei gyrfa filwrol. Ychwanegodd Hayley: “Rwy'n ddiolchgar iawn fy mod yn gweithio i gyflogwr sy'n ystyriol o'r Lluoedd Arfog ac mae'r gefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod y newid hwn."
Fel cyflogwr sy'n ystyriol o'r Lluoedd Arfog, mae'r Cyngor wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi Milwyr wrth Gefn a chymuned ehangach y Lluoedd Arfog. Dywedodd Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Phillip Hughes:
"Fel cyflogwr, rydym yn gefnogol iawn i gymuned y Lluoedd Arfog a phopeth maen nhw'n ei gyfrannu i'n cymunedau. Fel cyflogwr sy'n ystyriol o'r Lluoedd Arfog, rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae ein Milwyr wrth gefn yn ei chwarae wrth gyfrannu at amddiffyn ein cenedl. Rydym yn falch iawn o Hayley, fel aelod gwerthfawr o dîm Cyngor Sir Caerfyrddin ac fel Milwr wrth gefn ymroddedig."
Dyfarnwyd Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn i Gyngor Sir Caerfyrddin ym mis Medi 2023 i gydnabod y gefnogaeth mae'r Cyngor yn ei rhoi i Gymuned y Lluoedd Arfog drwy roi ar waith arferion a pholisïau cyflogaeth sy'n ystyriol o'r Lluoedd Arfog.
Ychwanegodd y Cynghorydd Phillip: "Rydyn ni'n gwbl gefnogol i Hayley yn ystod ei chyfnod yn gwasanaethu ac yn dymuno pob llwyddiant iddi yn yr ymgyrch bwysig hon. Edrychwn ymlaen at ei chroesawu yn ôl a chlywed popeth am ei phrofiadau ar ôl dychwelyd.”
Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, cwblhewch y modiwl e-ddysgu ar Gyfamod y Lluoedd Arfog, lle byddwch chi'n dysgu am y Lluoedd Arfog ac yn dysgu beth yw Cyfamod y Lluoedd Arfog. Gallwch ddod o hyd i'r modiwl ar blatfform Thinqi