Blwyddyn dreth newydd, arbedion newydd
4 diwrnod yn ôl
Y flwyddyn dreth newydd yw'r amser perffaith i osod nodau ariannol a manteisio ar gyfleoedd i arbed treth.
Os ydych chi wedi bod yn ystyried cynllun Rhannu Cost AVC, nawr yw'r amser gorau i chi ddechrau eich cynllun.
· Mwy o amser i gynilo: Po gynharaf y byddwch chi'n dechrau, y mwyaf y gallwch chi gyfrannu ar hyd y flwyddyn dreth, gan fanteisio ar dwf cyfansawdd.
· Gwneud y mwyaf o arbedion treth o'r diwrnod cyntaf: Mae cynllun Rhannu Cost AVC wedi'i eithrio rhag cyfraniadau Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol, sy'n golygu bod cyfraniad o £50 ond yn costio £36.08 i drethdalwr ar y gyfradd sylfaenol.*
Ymunwch â My Money Matters ar gyfer gweminar ddefnyddiol am sut y gallwch chi wneud arbedion treth gyda chynllun Rhannu Cost AVC.
Blwyddyn dreth newydd, arbedion newydd (45 munud)
· 1 Ebrill 2025 am 10:30am
· 4 Ebrill 2025 am 12:30pm
· 8 Ebrill 2025 am 2:30pm
· 15 Ebrill 2025 am 2:30pm
· 25 Ebrill 2025 am 10:30am
· 30 Ebrill 2025 am 2:30pm
Yn ogystal, mae'r llyfrgell ddysgu newydd yn rhoi gwybodaeth berthnasol i'ch helpu chi i gynllunio'n ddoethach ar gyfer y flwyddyn dreth sydd i ddod.
Peidiwch â cholli'ch cyfle i ddechrau'r flwyddyn dreth newydd yn y ffordd iawn. Archebwch eich lle heddiw i gael gwybod sut y gallai Rhannu Cost AVC eich helpu i gynyddu eich pot pensiwn a chynllunio ymlaen llaw ar gyfer ymddeoliad mwy cyfforddus.
*Mae cyfradd sylfaenol yn tybio bod unigolyn yn talu 20% o gyfraniadau Treth Incwm ac 8% o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Bydd yr arbedion gwirioneddol yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol a pherfformiad y gronfa fuddsoddi, sy'n cael ei buddsoddi gan eich darparwr Rhannu Cost AVC.
Cyn gwneud eich cynllun Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol dylech ystyried a ydych yn gallu fforddio gwneud hynny. Siaradwch ag ymgynghorydd ariannol annibynnol os oes angen cyngor ariannol arnoch. Mae cynllun Rhannu Cost AVC ar gael i aelodau gweithredol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn unig. Bydd angen i chi ystyried pa fuddsoddiad sy'n addas i chi.
Buddsoddiad tymor hir yw pensiwn a gall gwerth y gronfa amrywio a gostwng. Gall eich incwm yn y pen draw ddibynnu ar faint y gronfa ar ôl ymddeol, cyfraddau llog yn y dyfodol a deddfwriaeth trethi.
Mae treth yn seiliedig ar amgylchiadau unigol a gall newid yn y dyfodol.
Mae'r wybodaeth yn seiliedig ar ein dealltwriaeth bresennol o ddeddfwriaeth a rheoliadau treth. Gall unrhyw lefelau a sylfeini treth a rhyddhad treth newid.