Cau'r bwlch pensiwn rhwng y rhywiau ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod

14 diwrnod yn ôl

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni ar 8 Mawrth 2025, beth am godi ymwybyddiaeth o'r bwlch pensiwn rhwng y rhywiau – ac yn bwysicach, cymryd camau i'w gau.

Gall cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i ofalu am blant effeithio ar eich cynlluniau am ymddeol. Yn ôl erthygl ddiweddar gan Legal and General nid yw'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn effeithio cymaint ar weithwyr iau, ond mae'n taro menywod hŷn yn llawer caletach. 

Mae ymchwil hefyd yn cadarnhau bod y bwlch pensiwn rhwng y rhywiau yn dechrau'n gynnar - mae gan fenywod fwlch o 16% wrth iddynt ymuno â'r gweithlu 
ac erbyn iddynt ymddeol, mae'r pot pensiwn cyfartalog i ddynion ddwywaith yn fwy na'r pot pensiwn i fenywod.

Fel eich cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich dyfodol ariannol a darparu ffordd syml ac effeithiol o gymryd cyfrifoldeb am eich ymddeoliad er mwyn i chi allu cau'r bwlch pensiwn ar eich telerau chi. 
Mae ein partner, My Money Matters, yn cynnal gweminar ‘Closing the Gender Pension Gap’ i'ch helpu i ddarganfod sut y gallwch gael yr ymddeoliad rydych chi'n ei haeddu gyda chymorth eich cynllun buddion gweithwyr arbennig sef Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (Rhannu Cost AVC).   

Gall Rhannu Cost AVC wneud gwahaniaeth go iawn i'ch dyfodol. Nid yn unig y mae'n caniatáu i chi wneud arbedion Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol ar unwaith ar eich arian wrth iddo fynd i mewn i'ch pot pensiwn - sy'n golygu mai dim ond £72.08* y mae cyfraniad o £100 yn ei gostio i drethdalwr ar y gyfradd sylfaenol - mae hefyd yn gwbl hyblyg. 

Felly, gallwch gynyddu neu leihau eich cyfraniadau pryd bynnag y dymunwch, o fewn terfynau. 

Felly ewch ati i wylio a dysgu, cliciwch yma i archebu eich lle.   https://mymoneymatters.ws/IWDIntranet2

Os oes angen unrhyw help arnoch i gael mynediad i My Money Matters, anfonwch e-bost i support@my-money-matters.co.uk neu ffoniwch 01252 959 779.
 
*Canllaw yn unig yw'r arbedion cyfradd sylfaenol a ddangosir. Mae cyfradd sylfaenol yn tybio bod unigolyn yn talu 20% o gyfraniadau Treth Incwm ac 8% o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Bydd yr arbedion gwirioneddol yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol a pherfformiad y gronfa fuddsoddi, sy'n cael ei buddsoddi gan eich darparwr Rhannu Cost AVC.

Mae cynllun Rhannu Cost AVC ar gael i aelodau gweithredol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn unig. Cyn gwneud neu ddiwygio eich cynllun Rhannu Cost AVC dylech ystyried a ydych yn gallu fforddio gwneud hynny.

Siaradwch ag ymgynghorydd ariannol annibynnol os oes angen cyngor ariannol arnoch. Bydd angen i chi ystyried pa fuddsoddiad sy'n addas i chi. 

Ni allwch gael mynediad at gynllun Rhannu Cost AVC nes eich bod yn 55 oed, gan godi i 57 oed o 2028. 

Buddsoddiad tymor hir yw pensiwn a gall gwerth y gronfa amrywio a gostwng. Gall eich incwm yn y pen draw ddibynnu ar faint y gronfa ar ôl ymddeol, cyfraddau llog yn y dyfodol a deddfwriaeth trethi.