Lansio'r Rhaglen Profiad Tymor Byr (STEP)
11 diwrnod yn ôl
Rydym wedi ymroi i ddatblygu ein pobl drwy ddarparu cyfleoedd dysgu a phrofiadau gyda'r bwriad o sicrhau bod gennym weithlu medrus sy'n barod am y dyfodol.
O gofio'r ymrwymiad hwn, rydym yn falch iawn o gyflwyno ffordd fwy anffurfiol a hyblyg o symud o le i le yn y sefydliad, trwy ein rhaglen Profiad Tymor Byr (STEP) newydd.
Mae rhaglen STEP yn cynnig cyfleoedd tymor byr i ddysgu am wahanol rannau o'r sefydliad a chwrdd â phobl newydd. Gallwch gysgodi rhywun am ddiwrnod, fod yn rhan o ymweliadau grŵp, neu weithio ar brosiectau parhaus am gyfnod penodol.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael a sut gall y rhaglen fod o fudd i chi, ewch i dudalen Rhaglen STEP.