Mis Ymwybyddiaeth o Endometriosis

13 diwrnod yn ôl

Mis Mawrth yw Mis Ymwybyddiaeth o Endometriosis. Mae endometriosis yn gyflwr cronig sy'n effeithio ar tua 1 o bob 10 menyw a'r rhai a bennwyd yn fenyw adeg geni. Er ei fod yn gyflwr cyffredin, mae llawer o bobl nad ydynt yn ymwybodol o hyd o'r cyflwr a'i effaith sylweddol ar fywyd bob dydd. Mae endometriosis yn digwydd pan fydd meinwe tebyg i leinin y groth yn tyfu y tu allan i'r groth, gan arwain yn aml at boen difrifol a symptomau eraill.

Symptomau a Diagnosis

Mae symptomau cyffredin endometriosis yn cynnwys:

• Poen mislif difrifol sy'n tarfu ar weithgareddau dyddiol

• Mislif trwm sy’n golygu bod angen newid padiau neu damponau'n aml

• Poen wrth fynd i’r tŷ bach

• Poen yn y pelfis a phoen yng ngwaelod y cefn

• Poen yn ystod neu ar ôl rhyw

 Gorflinder ac anhawster i feichiogi

Gall fod yn anodd cael diagnosis o endometriosis gan fod ei symptomau yn aml yn gorgyffwrdd â chyflyrau eraill. Gall gymryd sawl prawf, gan gynnwys uwchsain a laparosgopi, i gadarnhau'r diagnosis. Os ydych yn amau ​​bod endometriosis arnoch, mae'n hanfodol siarad â'ch meddyg teulu a rhoi gwybodaeth fanwl am eich symptomau.

Triniaeth a Chefnogaeth

Er nad oes iachâd ar gyfer endometriosis, gall triniaethau amrywiol helpu i reoli’r symptomau. Mae'r rhain yn cynnwys meddyginiaethau lleddfu poen, therapïau hormonaidd, ac mewn rhai achosion, llawdriniaeth. Mae cymorth hefyd ar gael trwy eich rheolwr, y tîm iechyd a llesiant ac atgyfeiriad at Iechyd Galwedigaethol, lle bo angen.

Dilynwch yr awgrymiadau isod i greu deialog fwy agored am faterion iechyd menywod yn y gwaith:

1. Dechreuwch trwy normaleiddio sgyrsiau am iechyd mislif ac atgenhedlu.

2. Ewch ati i ymestyn y sgyrsiau hyn i fentrau llesiant yn y gweithle.

3. Anogwch bolisïau drws agored lle mae gweithwyr yn teimlo'n ddiogel yn trafod heriau sy'n ymwneud ag iechyd.

Codi Ymwybyddiaeth

Mae codi ymwybyddiaeth am endometriosis yn hanfodol ar gyfer diagnosis cynnar a chymorth gwell i'r rhai yr effeithir arnynt. Trwy ddeall y symptomau a hyrwyddo sylw meddygol amserol, gallwn helpu i wella ansawdd bywyd y rhai sy'n byw gydag endometriosis.

Llesiant ac Iechyd

Gall rheoli cyflwr cronig fel endometriosis gael effaith sylweddol ar lesiant cyffredinol ac iechyd meddwl. Gall poen cronig a gorflinder effeithio ar eich gallu i weithio, cymdeithasu a chynnal ffordd iach o fyw. Mae'n bwysig blaenoriaethu hunanofal a cheisio cefnogaeth gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, ffrindiau a theulu.

Gall ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, cymryd rhan mewn ymarferion ysgafn fel ioga neu nofio, a chynnal deiet cytbwys helpu i reoli symptomau a gwella llesiant cyffredinol. Gall cymorth iechyd meddwl, fel cwnsela neu therapi, hefyd fod yn fuddiol ar gyfer ymdopi â’r heriau emosiynol sy’n gysylltiedig â byw gydag endometriosis.

I gael rhagor o gymorth a Chyngor ynghylch Ffordd o Fyw, ewch i'n tudalennau Iechyd a Llesiant.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am oriau hyblyg a threfniadau gweithio ar y tudalennau Adnoddau Dynol ar y fewnrwyd, gan gynnwys Absenoldeb Salwch ac Addasiadau Rhesymol (Anabledd).

I gael rhagor o fanylion, gallwch ymweld â’r gwefannau Ending endometriosis starts by saying it I Endometriosis UK neu Endometriosis - NHS

 

Erthygl gan: Tîm Iechyd a Llesiant