Mis Ymwybyddiaeth Straen
4 diwrnod yn ôl
Mae Ebrill yn nodi Mis Ymwybyddiaeth Straen a'r thema eleni yw arwain â chariad, sy'n ceisio annog pawb i ‘ddangos caredigrwydd a thosturi at ein hunain ac eraill, a derbyn ein gilydd, waeth beth fo'r heriau rydyn ni'n eu hwynebu'.
Yn yr oes sydd ohoni heddiw, lle mae straen yn aml yn brigo i'r wyneb yng nghanol gwrthdaro, tensiwn ac ymraniadau, rydym o'r farn mai cariad yw'r grym cyffredinol sy'n gallu newid y naratif. Trwy ddewis cariad fel ein man cychwyn, rydym yn croesawu empathi, yn blaenoriaethu dealltwriaeth, ac yn creu newid cadarnhaol ym mhob rhyngweithiad.
P'un ai wrth ddangos caredigrwydd neu gariad i rywun gerllaw, neu gynnig cymorth i gymunedau byd-eang, dal y drws ar agor i rywun neu fod yn barod i wrando, gall gweithredoedd bach o gariad gael effaith fawr. Byddwch yn garedig i chi'ch hunan drwy dreulio amser yn gofalu am eich hunan, yr un peth ag y byddech yn ei wneud i eraill. Gall hyd yn oed y mymryn lleiaf o gariad sbarduno positifrwydd.
Mae Straen yn ymateb corfforol normal pan fyddwn yn teimlo o dan bwysau, ac yn aml gall fod yn gyflwr cadarnhaol sy'n ein galluogi i oresgyn sefyllfaoedd anodd neu heriol. Fodd bynnag, os yw'r corff yn parhau i fod mewn cyflwr o straen am gyfnod hir, gall hyn gael effaith negyddol difrifol ar ein hiechyd meddwl a'n hiechyd corfforol, gan gynnwys gorbryder, iselder ac anhunedd.
Mae'r Awdurdod yn cynnig ystod o adnoddau, gwybodaeth a hyfforddiant ar Straen ac Iechyd Meddwl ac rydym yn eich annog i fanteisio ar y rhain. Mae'r Asesiad Straen Unigol yn offeryn rhagorol i'w ddefnyddio os ydych yn pryderu am eich lefelau straen. Gall yr offeryn hwn eich helpu i adnabod eich sbardunau a bydd yn eich galluogi chi a'ch rheolwr i'ch cefnogi'n fwy effeithiol yn y gweithle.
Ar ben hynny, rydym wedi creu'r modiwl e-ddysgu Iechyd Meddwl yn y gweithle (gig.cymru) fel modiwl gorfodol allweddol, mae'n rhaid i bawb gwblhau hwn. Mae'n canolbwyntio ar iechyd meddwl, gan gynnwys straen, yn y gweithle a sut i’ch cefnogi chi eich hun ac eraill, ac mae'n darparu dolenni i'r cymorth mewnol ac allanol sydd ar gael.
Rydym wedi ymrwymo o hyd i gefnogi eich iechyd meddwl a'ch llesiant ac rydym yn eich annog i ganolbwyntio ar wneud addasiadau i'ch trefn ddyddiol y gallwch ddygymod â hwy, er y gall effaith camau bach ymddangos yn fach, gall effeithiau'r rhain fod yn anferthol!
I gynorthwyo arweinwyr tîm, goruchwylwyr a rheolwyr i leihau straen ac absenoldeb salwch sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn eu meysydd gwasanaeth, rydym wedi trefnu rhaglen o weithdai "Rheoli Straen ac Iechyd Meddwl yn y Gweithle". Caiff pob arweinydd tîm, goruchwyliwr a rheolwr ei annog yn gryf i fynychu'r gweithdai hyn.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r tudalennau mewnrwyd Straen, Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol i gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth. Gweler hefyd ein tudalen Cymorth a Chefnogaeth ar gyfer sefydliadau ac adnoddau allanol. I wneud unrhyw ymholiadau eraill am Iechyd a Llesiant, cysylltwch â'r tîm Iechyd a Llesiant ar unrhyw adeg drwy lenwi'r ffurflen gysylltu ar-lein.