Sut i ddod o hyd i ystafell gyfarfod
11 diwrnod yn ôl
Hoffem atgoffa pawb bod ystafelloedd cyfarfod wedi cael eu hailenwi i'w gwneud yn haws dod o hyd iddynt ac yn sgil rhai o'r newidiadau i Ystafelloedd Pwyllgor.
Rydym am ei gwneud yn haws dod o hyd i ystafelloedd a'u harchebu, yn enwedig mewn adeiladau anghyfarwydd. Er enghraifft, yn Heol Spilman, enw Ystafell Bwyllgor 1 bellach yw 'Ystafell Gyfarfod Spilman 103’.
I gael gwybodaeth fanwl am yr enwau newydd a'u lleoliadau, ewch i'n tudalennau ar y fewnrwyd lle cewch wybodaeth am ystafelloedd cyfarfod ym mhob adeilad yn ogystal â chynlluniau llawr.
Sylwch nad oes unrhyw newidiadau wedi'u gwneud eto i ystafelloedd cyfarfod ym Mhorth y Dwyrain. Mae trafodaethau'n parhau gyda rheolwyr ar y safle ac ar ôl i'r rhain ddod i ben, bydd y mannau cyfarfod yn cyd-fynd â'r holl safleoedd corfforaethol eraill.