Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2025
6 diwrnod yn ôl
Cynhelir Wythnos Gwaith Cymdeithasol o ddydd Llun 17 Mawrth i ddydd Gwener 21 Mawrth. Mae'n dod â phobl at ei gilydd i ddathlu gwaith cymdeithasol.
Yn ystod yr wythnos, bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau sy'n canolbwyntio ar gryfhau ein perthnasau, llesiant a chynnal ein hunaniaeth gwaith cymdeithasol.
Byddant hefyd yn rhannu fideos ysbrydoledig ar ei chyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr wythnos, felly cadwch lygad amdanyn nhw.
I bwy mae Wythnos Gwaith Cymdeithasol?
Mae Wythnos Gwaith Cymdeithasol ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:
- gweithwyr cymdeithasol, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio a’r rhai sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn
- myfyrwyr gwaith cymdeithasol ac addysgwyr
- pobl sydd â phrofiad o waith cymdeithasol
- cyflogwyr gweithwyr cymdeithasol
- gweithlu gofal cymdeithasol ehangach
- swyddogion llywodraeth a pholisi
- gweithwyr Gofal Cymdeithasol Cymru a sefydliadau partner.
Ymunwch â’r digwyddiadau!
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi trefnu rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau ar gyfer yr wythnos, gan gynnwys sesiynau am ffiniau proffesiynol a niwroamrywiaeth.
Ewch i’r gwefan i weld rhestr o ddigwyddiadau ac archebu eich lle.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch Ymholiadaugg@GofalCymdeithasol.Cymru