Cymraeg Gwaith 2025 Cyrsiau i Bawb
2 diwrnod yn ôl
Hoffech ddechrau eich taith Cymraeg, cael mwy o hyder yn y Gymraeg neu wella’ch sgiliau ysgrifenedig?
Rydyn ni’n falch o gynnig amrywiaeth o gyfleoedd i bawb ar bob lefel i ddatblygu’ch Cymraeg – beth bynnag yw eich man cychwyn.
Dychmygwch allu cyfarch eich cydweithwyr yn Gymraeg a defnyddio’r iaith mewn sgyrsiau pob dydd. Gyda chyrsiau hyblyg a diddorol wedi’u teilwra i’ch anghenion, nawr yw’r amser perffaith i ddechrau neu barhau â’ch taith.
Gyda’n gilydd, gadewch i’r Gymraeg fod yn rhan naturiol o’n gweithle — un gair, un sgwrs, un cam ar y tro!