Gofal iechyd preifat gyda disgownt arbennig i staff y Cyngor
1 diwrnod yn ôl
Mae gan staff y Cyngor bellach fynediad arbennig i wasanaethau gofal iechyd preifat gyda disgownt yn The Independent General Practice (iGP) – sydd wedi'i leoli yn MediSpace, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin.
Gyda'r cynnig arbennig hwn, gallwch fwynhau gofal meddygol o ansawdd uchel am hyd at 25% yn llai, gan sicrhau bod eich iechyd a'ch llesiant bob amser mewn dwylo arbenigol.
Mae'r iGP yn cynnig ystod eang o wasanaethau i gefnogi'ch anghenion iechyd:
- Apwyntiadau meddyg teulu preifat – Ar gael wyneb yn wyneb, dros y ffôn, neu ymgynghoriad fideo
- Gwiriadau llesiant - Profion meddygol cynhwysfawr i roi tawelwch meddwl i chi
- Sgriniadau iechyd - Profion fforddiadwy ar gyfer cyfrif gwaed, iechyd yr arennau, diabetes, iechyd y galon, iechyd yr afu, a mwy
- Iechyd dynion - Gan gynnwys Therapi Adfer Testosteron (TRT)
- Iechyd menywod - Profion beichiogrwydd, cymorth menopos, a mwy
- Gwasanaethau colli pwysau - Cynlluniau wedi'u teilwra i'ch helpu i gyrraedd eich nodau
- Sgrinio'r galon – Gwiriadau hanfodol ar gyfer iechyd cardiofasgwlaidd
- Pigiadau fitamin B12 - Rhoi hwb i'ch lefelau egni
- Teithio a brechiadau arferol – Arhoswch yn ddiogel ble bynnag y mae bywyd yn mynd â chi
- Ystod eang o brofion gwaed – wedi'u teilwra i'ch anghenion
Mae trefnu eich apwyntiad yn hawdd ac yn ddidrafferth:
- Archebwch ar-lein – Ewch i'n tudalen archebu unigryw ar gyfer staff: https://www.theigp.co.uk/ccc a dechrau heddiw! Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud nodyn o'r dudalen!
- Wyneb yn wyneb – Ewch i iGP, MediSpace yng Nghaerfyrddin, a siaradwch â Hayley Palk, Rheolwr y Practis, a'r tîm.
- Dros y ffôn – ffoniwch 03456 252 252 ac archebwch dros y ffôn neu gofynnwch unrhyw gwestiynau sydd gennych.