Wythnos Dysgu yn y Gwaith (12-16 Mai)

1 diwrnod yn ôl

Mae Wythnos Dysgu yn y Gwaith yn cael ei chynnal rhwng 12 a 16 Mai.

Y thema eleni yw 'Cysylltu', sy'n canolbwyntio ar fanteision cymdeithasol dysgu gydol oes yn y gwaith.

Eleni, mae'r Tîm Dysgu a Datblygu yn eich annog i ymuno â sesiynau sy'n cefnogi "Pynciau Llosg", fel y Gymraeg, Cynaliadwyedd, Twristiaeth, Deallusrwydd Artiffisial, Hyfforddi, Mentora a llawer mwy.

I weld beth sydd gyda ni i'w gynnig, ewch i Thinqi.

Ac os nad ydych chi'n gyfarwydd â Thinqi, trefnwch sesiwn gydag un o'n hymgynghorwyr i weld yr adnoddau sydd ar gael i chi yn ystod Wythnos Dysgu yn y Gwaith ac wedi hynny.

Dim ond un cwestiwn sydd ar ôl... beth fyddwch chi'n ei ddysgu yn ystod yr wythnos?