Maes Parcio Heol Spilman

10 awr yn ôl

Mae staff yn cael eu hannog i fod yn ystyriol wrth ddefnyddio maes parcio Heol Spilman.

Gall parcio anystyriol arwain at ddamweiniau a rhoi cerddwyr mewn perygl.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y canllawiau hyn:

  • Dim ond y rhai sydd â Bathodyn Glas dilys ddylai barcio yn y mannau parcio i bobl anabl.
  • Parciwch o fewn y mannau parcio er mwyn osgoi rhwystro defnyddwyr eraill drwy beidio â pharcio:
    • ar y croeslinellau
    • o flaen y peiriant talu ac arddangos
    • o flaen yr allanfeydd tân
    • ar ochr yr adeilad
    • mewn man sy'n rhwystro mynediad i gerddwyr.
  • Mae'r mannau parcio coch wedi'u neilltuo ar gyfer trigolion Tŷ Spilman. Ni ddylai staff fod yn defnyddio'r mannau parcio hyn o dan unrhyw amgylchiadau.

Dylai'r rhai sy'n cynnal cyfarfodydd neu gadeiryddion cyfarfodydd sicrhau bod ymwelwyr neu westeion yn cydymffurfio â'r rheoliadau tân a pharcio sydd ar waith ar gyfer Heol Spilman.

Os nad oes mannau ar gael, defnyddiwch y meysydd parcio eraill sydd ar gael, fel Glantywi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen 'meysydd parcio staff' 

Diolch i chi am eich cydweithrediad.