Paratowch ar gyfer sioe deithiol My Money Matters
8 diwrnod yn ôl
Bydd Sioe Deithiol My Money Matters yn dychwelyd i Gyngor Sir Caerfyrddin ar 16 a 17 Medi, gan gynnig cyfle i chi gwrdd â'r tîm a dysgu sut i roi hwb i'ch cronfa bensiwn.
Ymunwch â nhw:
Dydd Mawrth, 16 Medi:
- Porth y Dwyrain, Llanelli 9am - 12pm
Dewch i gwrdd â chynrychiolydd o My Money Matters i ddysgu am yr hyn maen nhw'n ei gynnig. Byddan nhw'n rhoi cymorth ac yn ateb eich cwestiynau! Galwch heibio i wybod mwy.
· Ystafell Gyfarfod Depo Cross Hands (1pm - 2.30pm)
Dysgwch fwy am y cynllun Rhannu Cost AVC sydd ar gael drwy'r Hyfforddwyr Addysg Ariannol. Bydd y sesiwn yn para awr, gydag amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb. Galwch heibio i wybod mwy.
Dydd Mercher, 17 Medi:
· Tŷ Parc-yr-hun, Rhydaman o 9am - 12pm
Dewch i gwrdd â chynrychiolydd o My Money Matters i ddysgu am yr hyn maen nhw'n ei gynnig. Byddan nhw'n rhoi cymorth ac yn ateb eich cwestiynau! Galwch heibio i wybod mwy.
· Ystafell Gyfarfod Depo Glanaman (1pm - 2.30pm)
Dysgwch fwy am y cynllun Rhannu Cost AVC sydd ar gael drwy'r Hyfforddwyr Addysg Ariannol. Bydd y sesiwn yn para awr, gydag amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb. Galwch heibio i wybod mwy
Gall aelodau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol hefyd archebu slot 20 munud ymlaen llaw am gymorth un-i-un gyda Hyfforddwr Addysg Ariannol ynglŷn â'u cynllun pensiwn a'u cynllun Rhannu Cost AVC. Bydd angen i chi archebu eich sesiwn 1 i 1 ymlaen llaw.
- 16 Medi – Porth y Dwyrain, Llanelli (Ystafell 2) rhwng 9am-12pm *Sylwch fod rhaid archebu'r sesiynau hyn ymlaen llaw. Cliciwch yma i archebu slot
17 Medi – Tŷ Parc-yr-Hun (Ystafell 103 ar y Llawr Cyntaf) rhwng 9am-12pm*Nodwch fod rhaid archebu'r sesiynau hyn ymlaen llaw. Cliciwch yma i archebu slot
Bydd swyddog Cronfa Bensiwn Dyfed hefyd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau am eich pensiwn.
Sylwer, mae'r cynllun Rhannu Cost AVC ar gael i aelodau gweithredol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn unig.