Dathlu Dydd Gŵyl Dewi - 'Gwnewch y pethau bychain'

7 awr yn ôl

Wrth i ni agosáu at Ddydd Gŵyl Dewi, mae'n amser i ni fel Cyngor ddod at ein gilydd i ddathlu ein treftadaeth, ein diwylliant, a'r hyn sy'n gwneud Cymru'n unigryw.

Mae'r diwrnod yn ein hatgoffa o bwysigrwydd caredigrwydd, cydweithio, ac yn unol â chyngor ein Nawddsant i 'Wneud y pethau bychain', – sy'n gwneud gwahaniaeth mawr yn ein gwaith bob dydd.

Mae'r Gymraeg yn allweddol i hunaniaeth a diwylliant nifer o'n cymunedau, a gall nifer o bobl fynegi eu barn a'u hanghenion yn well yn eu hiaith gyntaf. Mae yna grwpiau o siaradwyr Cymraeg sydd wir angen derbyn gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf er mwyn i'r gwasanaethau hynny fod yn effeithiol. Mae gennym ddyletswydd i hwyluso dewis iaith ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth. Cofiwch fod adnoddau i'ch helpu chi yn eich gwaith o ddydd i ddydd drwy ein tudalen Gweithio'n ddwyieithog ar y fewnrwyd.

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni, rydym yn cynnig cyfle i un aelod lwcus o staff ennill hamper llawn cynnyrch o Sir Gâr, gan gynnwys ffigwr crochenwaith Ladi Gymreig a grëwyd gan ein Hwb Sgiliau.

I gael cyfle i ennill y wobr, atebwch y cwestiwn canlynol:

C. Beth yw enw'r brifddinas leiaf yng Nghymru?

E-bostiwch eich ateb i: IaithGymraeg@sirgar.gov.uk erbyn dydd Gwener, 6 Mawrth. Byddwn yn cysylltu â'r enillydd ddydd Llun, 9 Mawrth.

Gwnewch y pethau bychain. Pob lwc!