Telerau ac Amodau Cyfnewid Adnoddau
Diweddarwyd y dudalen: 17/07/2026
Drwy ddefnyddio Cyfnewid Adnoddau, rydych chi'n cytuno i'r canlynol:
Defnydd Busnes yn Unig
- Mae Cyfnewid Adnoddau ar gyfer rhannu adnoddau sy'n gysylltiedig â gwaith rhwng timau ac adrannau.
- Ni ddylid rhestru eitemau personol.
Offer TG
- Ni ddylid cyfnewid offer TG drwy'r cynllun Cyfnewid Adnoddau.
- Rhaid rheoli gliniaduron, byrddau gwaith, monitorau, ffonau symudol, tabledi, perifferolion, neu unrhyw asedau technoleg eraill trwy brosesau rheoli a gwaredu asedau TG cymeradwy y sefydliad.
- Dylai staff ddilyn y gweithdrefnau TG perthnasol a chysylltu â Desg Wasanaeth TG neu'r perchennog asedau dynodedig i gael cyngor ar drosglwyddo, adleoli neu waredu offer TG.
- Bydd unrhyw offer TG yn cael ei dynnu o'r cynllun Cyfnewid Adnoddau.
Cywirdeb Postiadau
- Mae staff yn gyfrifol am sicrhau bod disgrifiadau, meintiau a manylion cyflwr yn gywir ac yn gyfredol.
- Dylid dileu neu ddiweddaru postiadau ar ôl i eitem gael ei dyrannu. E-bostiwch EBailey@sirgar.gov.uk i ofyn am ddileu'r postiad.
Y cyntaf i'r felin piau hi
- Oni nodir fel arall, bydd adnoddau yn cael eu dyrannu yn ôl disgresiwn y tîm sy'n eu cynnig.
- Nid yw dangos diddordeb yn gwarantu dyraniad.
Cyflwr Adnoddau
- Mae pob eitem yn cael ei rhannu "fel y mae".
- Dylai timau sy'n derbyn adnoddau asesu a yw'r adnodd yn addas ar gyfer ei ddefnydd arfaethedig cyn ei gasglu neu ei ddefnyddio.
Casglu a Chludo
- Dylid cytuno ar drefniadau ar gyfer casglu, dosbarthu ac unrhyw gostau cysylltiedig rhwng y timau dan sylw.
Iechyd, Diogelwch a Diogelwch Gwybodaeth
- Rhaid i eitemau fod yn ddiogel i'w defnyddio a rhaid eu bod yn cydymffurfio â pholisïau sefydliadol.
- Cadwch at bolisïau codi a chario ac iechyd a diogelwch y cyngor wrth symud eitemau.
Eitemau Cyfyngedig
- Ni ddylid rhestru adnoddau sy'n gofyn am gymeradwyaeth ffurfiol, prosesau rheoli asedau, codi a chario arbenigol, neu weithdrefnau gwaredu oni bai bod cymeradwyaethau perthnasol wedi'u cael.
Defnydd Parchus
- Dylai defnyddwyr gyfathrebu'n broffesiynol ac ymateb yn brydlon i ymholiadau lle bo hynny'n bosibl.
Dim Ymrwymiad Prynu
- Bwriad y Cyfnewid Adnoddau yw hyrwyddo ailddefnyddio adnoddau presennol ac nid yw'n cymryd lle'r prosesau caffael sefydledig lle mae angen y rhain.
- Mae'r sefydliad yn cadw'r hawl i ddileu postiadau sy'n amhriodol, yn anghywir neu'r rhai nad ydynt yn cydymffurfio â pholisïau sefydliadol.
Yr Hawl i Ddileu Postiadau
- Mae'r sefydliad yn cadw'r hawl i ddileu postiadau sy'n amhriodol, yn anghywir neu'r rhai nad ydynt yn cydymffurfio â pholisïau sefydliadol.
Ymwadiad
Darperir y cynllun Cyfnewid Adnoddau i hwyluso ailddefnyddio adnoddau sefydliadol. Nid yw'r sefydliad yn gwarantu argaeledd, addasrwydd neu gyflwr unrhyw eitem a restrir ac nid yw'n derbyn unrhyw atebolrwydd sy'n deillio o drosglwyddo neu ddefnyddio adnoddau sy'n cael eu cyfnewid trwy'r platfform hwn
