Polisi Absenoldeb Salwch - Mehefin 2025
Yn yr adran hon
1. Cyflwyniad
Mae ein gwerthoedd yn ategu ac yn arwain ein ffordd o weithio, ein ffordd o wella a'n ffordd o wneud penderfyniadau i gefnogi'r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu. Mae'n ofynnol i ni (Cyngor Sir Caerfyrddin) a chi (ein gweithwyr) ystyried sut yr ydym yn cefnogi'r gwerthoedd hyn ac yn eu rhoi ar waith er mwyn iddynt ategu egwyddorion y Polisi Absenoldeb Salwch.
Gweler dolen at Ein Gwerthoedd Craidd Un Cyngor - Ein Gwerthoedd Craidd a'n Hymddygiad
Mae llawer o ymchwil sy'n dangos bod presenoldeb yn y gwaith yn cyfrannu at iechyd a llesiant cadarnhaol. Ein nod yw eich cefnogi drwy ddarparu gweithle diogel ac iach a hyrwyddo diwylliant lle y gellir disgwyl presenoldeb cyson gennych chi a'ch cydweithwyr. Mae'n annhebygol y bydd absenoldeb o'r gwaith yn brofiad cadarnhaol felly byddwn yn mynd ati i'ch rheoli a'ch cefnogi os ydych yn profi afiechyd yn ystod eich cyflogaeth.
Rydym yn deall y gallai fod gennych gyflwr iechyd neu anaf sy'n golygu nad ydych chi'n ffit i weithio ac y bydd angen amser arnoch i orffwys ac adfer. Drwy weithredu'r polisi hwn, ein nod yw taro cydbwysedd rhesymol rhwng eich angen i gymryd amser i ffwrdd i orffwys ac adfer, ein hanghenion gweithredol i sicrhau parhad gwasanaethau ac effaith eich absenoldeb ar eich cydweithwyr.
Mae'r polisi hwn wedi'i lunio ar y rhagdybiaeth bod pob absenoldeb salwch yn ddilys a bydd yn cael ei reoli ar y sail hon. Os na ddilynir gweithdrefnau neu os ydym yn amau bod camymddygiad, efallai y byddwn yn rhoi'r gorau i dalu tâl salwch statudol neu alwedigaethol; ystyried symud ymlaen trwy'r weithdrefn absenoldeb salwch yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael a/neu gymryd camau disgyblu, fel y bo'n briodol os oes tystiolaeth:
- nad yw absenoldeb yn ddilys neu ddim am y rheswm a roddwyd;
- eich bod yn ymgymryd â gweithgareddau amhriodol tra byddwch yn sâl, megis ymgymryd â gwaith â thâl neu ddi-dâl neu gymryd rhan mewn gweithgareddau a fyddai'n gwaethygu eich salwch; neu
- nad yw'r broses gywir wedi'i dilyn o ran rhoi gwybod am salwch, ei ardystio a'r weithdrefn absenoldeb salwch.
