Polisi Absenoldeb Salwch - Mehefin 2025

11. Iechyd Galwedigaethol

Mae Iechyd Galwedigaethol yn rhan o'r Tîm Llesiant Gweithwyr sy'n darparu cyngor, canllawiau a hyfforddiant ynghylch Iechyd, Diogelwch a Llesiant.

Mae gan Iechyd Galwedigaethol rôl bwysig wrth eich cynghori chi a'ch rheolwr ar eich ffitrwydd i weithio, addasiadau rhesymol a fydd yn helpu i gynnal gwaith, cefnogi eich adsefydlu ar ôl salwch neu anaf, i helpu i ddychwelyd i'r gwaith cyn gynted â phosibl.

Nid oes rhaid i chi fod yn absennol o'r gwaith, gall eich rheolwr llinell eich cyfeirio at y Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol unrhyw bryd, boed hynny cyn absenoldeb tebygol, yn ystod neu yn dilyn cyfnod(au) o absenoldeb. Anogir eich rheolwr llinell i gyfeirio yn gynnar yn y broses, fel bod modd ceisio barn feddygol briodol, a nodi unrhyw addasiadau rhesymol. Gall ymyrraeth gynnar ddarparu ateb amserol os codir pryder neu os oes angen cefnogaeth ar unrhyw adeg.

Gall ymyrraeth gynnar arwain hefyd at ystyried adleoli neu opsiynau eraill a all hwyluso dychwelyd i'r gwaith. (Gweler y Polisi Adleoli)

Os yw Iechyd Galwedigaethol yn argymell dychwelyd i'r gwaith 'fesul cam', caniateir hynny gyda thâl arferol am uchafswm o 4 wythnos.

Efallai y bydd eich rheolwr yn eich cyfeirio at Iechyd Galwedigaethol yn dilyn anaf sy'n gysylltiedig â'r gwaith ar ôl gofyn am gyngor gan Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch.

Darperir adroddiadau Iechyd Galwedigaethol i'ch rheolwr llinell yn unig, neu i'r rheolwr/rheolwyr a nodir ar y ffurflen atgyfeirio, gyda chopi i'r Tîm Presenoldeb Adnoddau Dynol.

Dylid nodi y gall Adnoddau Dynol/eich rheolwr rannu gwybodaeth berthnasol, gyda'ch caniatâd, gydag uwch-swyddogion priodol pan fydd camau terfynol y weithdrefn yn debygol o gael eu defnyddio, neu ar adeg lle gallwch ddefnyddio'r hawl i apêl neu adolygiad.

Bydd angen i chi roi caniatâd i ryddhau eich adroddiad meddygol. Os byddwch yn ymateb gan nodi nad ydych yn rhoi eich caniatâd, bydd eich rheolwr llinell, gyda chyngor gan adnoddau dynol, yn gwneud penderfyniad ynghylch eich ffitrwydd i weithio heb gael cyngor meddygol cyfredol.

Gall eich rheolwr llinell gynnal cynhadledd achos ar unrhyw adeg ar ôl ymgynghoriad ag Iechyd Galwedigaethol os ystyrir y byddai hynny'n fuddiol ac yn briodol. Bydd eich rheolwr llinell yn eich gwahodd chi, adnoddau dynol a gweithiwr meddygol proffesiynol perthnasol o Iechyd Galwedigaethol a fydd yn rhoi cyngor meddygol perthnasol. Bydd adnoddau dynol yn trafod ac yn adolygu'r holl opsiynau sydd ar gael gyda chi a'ch rheolwr llinell.

Er nad yw cynadleddau achos yn rhan o'r weithdrefn ffurfiol, gallwch ddod â chydymaith gyda chi os oes un ar gael.

Mae'r Tîm Llesiant Gweithwyr yn ymgymryd â mentrau iechyd rhagweithiol i hyrwyddo ac annog ffyrdd iach o fyw. Gellir argymell ymyriadau addas i helpu rheolwyr sy'n cefnogi eich iechyd a'ch llesiant.