Polisi Absenoldeb Salwch - Mehefin 2025
Yn yr adran hon
4.0 Cyfrifoldebau
Fel gweithiwr newydd dylai eich rheolwr llinell sicrhau eich bod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldeb o dan y Polisi hwn pan fyddwch yn dechrau gweithio drwy'r broses sefydlu leol a phan fyddwch yn cael eich penodi i swydd gyda chyfrifoldebau rheoli am y tro cyntaf.
Mae cyfathrebu rheolaidd yn hanfodol rhyngoch chi a'ch rheolwr llinell i sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael i gefnogi eich presenoldeb rheolaidd a dychwelyd i'r gwaith. Isod rhestrir yr isafswm a ddisgwylir gennych chi os byddwch yn absennol oherwydd salwch:
- Rhoi gwybod am absenoldeb yn uniongyrchol i'ch rheolwr llinell neu ddirprwy enwebedig erbyn yr amser priodol (dros y ffôn);
- Darparu hunan-ardystiad/ardystiad meddygol ar gyfer pob absenoldeb meddygol, fel sy'n briodol;
- Mynd i Adolygiad Meddygol yn ein Canolfan Iechyd Galwedigaethol pan fydd angen;
- Mynd i'r Cyfarfodydd Rheoli Absenoldeb perthnasol gyda'ch rheolwr i drafod absenoldeb salwch fel sy'n ofynnol o dan y polisi hwn.
Mae gan eich rheolwr llinell rôl allweddol i'w chwarae drwy gofnodi absenoldeb salwch yn gywir ar yr adeg briodol a sicrhau bod eich cyfnodau o absenoldeb salwch wedi'u rheoli mewn modd cyson a theg.
Yr Aelodau, y Cyfarwyddwr, Penaethiaid Gwasanaeth a'r holl Uwch-reolwyr sydd â'r cyfrifoldeb ehangach fel y nodir yn y trefniadau llywodraethu absenoldeb salwch. Nhw sy'n gyfrifol am:
- Graffu ar ddata absenoldeb salwch a rhoi sylw i unrhyw dueddiadau o ran absenoldeb salwch;
- Sicrhau bod diwylliant o bresenoldeb yn ei le, a'u bod yn hybu gweithle 'diogel ac iach';
- Cyfathrebu'r Polisi hwn a'r canllawiau cysylltiedig yn effeithiol o fewn y meysydd gwasanaeth priodol a sicrhau bod absenoldeb salwch yn cael ei reoli'n sensitif ac yn gyson;
- Comisiynu cymorth ychwanegol i chi a'ch tîm fel sy'n briodol ac yn ymarferol, a sicrhau eich bod yn derbyn hyfforddiant a goruchwyliaeth sy'n ddigonol i gyflawni eich dyletswyddau.
Yr is-adran Pobl, Digidol a Pholisi sy'n gyfrifol am fonitro effeithiolrwydd y polisi hwn. Bydd yn sicrhau bod yr agwedd ragweithiol at reolaeth yn cael ei hannog drwy gyngor amserol gan y Gwasanaethau Pobl (Adnoddau Dynol), y tîm Llesiant Gweithwyr, a'r timau Dysgu a Datblygu, fel sy'n briodol.
