Polisi Absenoldeb Salwch - Mehefin 2025

9. Y Weithdrefn Adolygu Absenoldeb Salwch a'r Trothwyon

Cydnabyddir bod cyfnodau o absenoldeb salwch, p'un a ydynt yn rhai tymor byr neu dymor hir, yn amharu ar y gwasanaeth a gallant roi pwysau ychwanegol ar aelodau staff eraill. Mae'n bwysig bod rheolwyr yn dilyn y weithdrefn hon fel bod gweithwyr yn gallu cyrchu cefnogaeth lle bo hynny'n briodol. Mae hyn er eich budd chi, y gwasanaeth a'ch cydweithwyr sy'n cynnal y gwasanaeth ac sy’n gwneud eich gwaith yn ystod eich absenoldeb. Mewn amgylchiadau lle mae presenoldeb yn parhau i fod yn anfoddhaol, gall fod yn rhaid i ni eich diswyddo oherwydd anallu yn sgil afiechyd.

  

Os ydych wedi bod yn absennol 3 gwaith neu am 10 diwrnod gwaith (pro rata) mewn cyfnod treigl o 12 mis, dylai eich rheolwr llinell gynnal 'Cyfarfod Cymorth i Weithwyr'. Dylai eich rheolwr hefyd gynnal Cyfarfod Cymorth i Weithwyr os yw'n ystyried eich bod yn symud tuag at drothwy ffurfiol arall neu i ddarparu cymorth anffurfiol dros dro yn ystod cam ffurfiol y weithdrefn hon. Dylai hyn olygu y cynigir cefnogaeth ychwanegol i chi yn gynnar, i'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith a/neu i gyflawni presenoldeb mwy rheolaidd. Mae'n bwysig bod y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal hyd yn oed os ydych chi'n absennol o'r gwaith fel y gellir rhoi cymorth cynnar ar waith i'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith.

Diben y cyfarfod hwn yw i chi a'ch rheolwr llinell archwilio unrhyw bryderon, y math o gymorth y gellir ei gynnig neu i archwilio'r hyn yr ydych chi’n credu fydd yn eich helpu i wella eich presenoldeb yn y gwaith yn y dyfodol. Gall y cyfarfod hwn fod yn estyniad i'r cyfarfod 'dychwelyd i'r gwaith' neu'n gyfarfod ar wahân os nad ydych wedi dychwelyd i'r gwaith eto.

Mae'r Cyfarfod Cymorth i Weithwyr fel arfer yn cael ei gynnal ar sail 1 i 1 gyda'ch rheolwr, beth bynnag yw eich prognosis, gan mai dyna'r cyfle cynharaf i archwilio a chynnig cymorth priodol ac amserol i chi. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd cyfarfodydd ffôn neu Skype fod yn briodol os ydych chi'n dal yn sâl ac yn methu â dod i'r gweithle neu os ydych wedi dychwelyd i'r gwaith, ond rydych chi'n gweithio mewn lleoliad gwahanol i'ch rheolwr llinell.

Os ydych yn cyrraedd trothwy ffurfiol bydd eich rheolwr yn dechrau'r cam ffurfiol o'r weithdrefn absenoldeb salwch. Y trothwyon ffurfiol yw:

  • 4 achlysur mewn cyfnod treigl o 12 mis (Mae'r trothwy yn dechrau o'r diwrnod cyntaf o'r 4ydd achlysur o absenoldeb);
  • Absenoldeb sy'n cyfateb i 3 wythnos waith arferol neu 15 diwrnod gwaith (pro rata rhan-amser), yn ddi-dor neu fel arall, mewn cyfnod treigl o 12 mis;
  • Neu unrhyw batrwm absenoldeb arall sy'n annerbyniol e.e. achlysuron lle mae absenoldeb yn aml yn digwydd yn ymyl gwyliau blynyddol neu wyliau banc.

Ym mhob achos, rhoddir saith niwrnod calendr o rybudd ysgrifenedig ynghylch cyfarfod ffurfiol o dan y Polisi Absenoldeb Salwch.

Bydd eich rheolwr llinell yn cyfarfod gyda chi pan fyddwch yn cyrraedd trothwy ffurfiol a gallwch chi ddewis cael cwmni cydymaith, h.y. Cynrychiolydd neu swyddog undeb llafur cydnabyddedig neu gydweithiwr gwaith priodol. (Gweler y canllawiau ar rôl y cydymaith). Rhoddir saith niwrnod calendr o rybudd ysgrifenedig ynghylch cyfarfod ffurfiol o dan y Polisi Absenoldeb Salwch

Gall y cyfarfod hwn ffurfioli rhai o'r strategaethau a drafodwyd yn y Cyfarfod Cymorth i Weithwyr. Er mwyn hwyluso dychwelyd i'r gwaith, neu sicrhau presenoldeb mwy boddhaol, gellir ystyried nifer o gamau gweithredu, gan gynnwys addasiadau rhesymol, adleoli i rôl arall sy'n addas ar gyfer eich galluoedd iechyd a / neu newidiadau i batrymau gwaith (gweler Anabledd: canllaw addasiadau rhesymol, Cyfleoedd adleoli a'r Polisi Gweithio Hyblyg). Er mai canlyniad y cyfarfod hwn fydd pwysleisio'r gefnogaeth sydd ar gael i chi ac ystyried yr holl strategaethau a fyddai'n eich helpu i ddychwelyd i'r gwaith neu barhau yn y gwaith, byddwch yn cael eich atgoffa, os na cheir fawr ddim gwelliant arwyddocaol yn eich presenoldeb, y gall hynny yn y pen draw arwain at derfynu eu cyflogaeth ar sail afiechyd.

Bydd cyfnod adolygu ffurfiol yn cael ei bennu gan ddechrau ar ddyddiad y cyfarfod rheoli presenoldeb 1af. Bydd hyd y cyfnod adolygu yn dibynnu ar ffeithiau'r achos ond ni ddylai fod yn llai na 2 fis ond heb fod yn fwy na 3 mis. Dylid cynnal y cyfarfod hwn felly heb oedi gormodol.

Os na chyflawnir presenoldeb boddhaol a byddwch yn cyrraedd trothwy ffurfiol yn ystod y cyfnod adolygu, byddwch yn symud i'r 2il gam rheoli absenoldeb ffurfiol o'r weithdrefn hon.

Os cyflawnir presenoldeb boddhaol yn ystod y cyfnod adolygu hwn, h.y. bydd eich presenoldeb yn gwella ac nad ydych wedi cyrraedd trothwy ffurfiol, byddwch yn cael eich tynnu o'r cam rheoli absenoldeb ffurfiol, a bydd hyn yn cael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan eich rheolwr. Mae hyn gyda'r amod y byddwch yn ailddechrau ar gam 1 o'r weithdrefn rheoli absenoldeb salwch ffurfiol os bydd eich lefel absenoldeb salwch yn cyrraedd trothwy ffurfiol o fewn y cyfnod monitro 4 mis dilynol.

Pan fydd patrwm o absenoldeb salwch yn datblygu yn dilyn eich tynnu o'r broses cyfarfodydd rheoli absenoldeb gall y rheolwr ymestyn y cyfnod monitro i 6 mis ar ddiwedd y cyfnod adolygu 3 mis nesaf gyda chyngor Adnoddau Dynol.

Bydd canlyniad y cyfarfod hwn yn cael ei gadarnhau yn ysgrifenedig.

Os ar ôl y 'cyfnod adolygu' nid yw eich absenoldeb salwch yn gwella, a'ch bod yn cyrraedd trothwy ffurfiol, bydd eich rheolwr llinell yn eich gwahodd i Gyfarfod Rheoli Absenoldeb Salwch 2il gam. Gall eich rheolwr llinell fod yng nghwmni rheolwr arall neu Bartner Busnes Adnoddau Dynol a gallwch chi ddod â chydymaith. (Gweler y canllawiau ar Rôl y Cydymaith). Rhoddir saith niwrnod calendr o rybudd ysgrifenedig ynghylch cyfarfod ffurfiol o dan y Polisi Absenoldeb Salwch.

Er mwyn hwyluso dychwelyd i'r gwaith, neu sicrhau presenoldeb mwy rheolaidd, gall eich rheolwr llinell ystyried nifer o gamau gweithredu mewn trafodaeth â chi gan gynnwys addasiadau rhesymol, adleoli i rôl arall sy'n addas ar gyfer eich galluoedd iechyd a / neu newidiadau i batrymau gwaith. Mae'n debygol mai un o ganlyniadau'r cyfarfod hwn fydd i'ch rheolwr llinell ofyn am adroddiad meddygol gan y Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol os nad oes gofyn am un eisoes, i ofyn am farn am eich gallu i gynnal presenoldeb rheolaidd yn y dyfodol agos a chyngor ar unrhyw ymyriadau iechyd a lles cefnogol ychwanegol a allai eich helpu i wneud hynny.

Byddwch yn cael eich cynghori'n ffurfiol yn y cyfarfod hwn, os na chyflawnir presenoldeb boddhaol a byddwch yn cyrraedd trothwy ffurfiol yn ystod y cyfnod adolygu, y byddwch yn symud ymlaen i 3ydd cam rheoli absenoldeb ffurfiol y weithdrefn hon, lle gellir gwneud penderfyniad i ddiswyddo ar sail afiechyd.

Bydd cyfnod adolygu pellach yn cael ei drefnu i ddilyn ymlaen o'r cyfnod adolygu cychwynnol a bennwyd yn y Cyfarfod Rheoli Absenoldeb 1af. Bydd hyd y cyfnod adolygu yn dibynnu ar ffeithiau'r achos ond ni ddylai fod yn llai na 2 fis ond heb fod yn fwy na 3 mis. Dylid cynnal y cyfarfod hwn felly heb oedi gormodol.

Os na chyflawnir presenoldeb boddhaol a’ch bodyn cyrraedd trothwy ffurfiol pellach yn ystod y cyfnod adolygu, byddwch yn symud i'r 3ydd cam o'r weithdrefn hon sef Cyfarfod Rheoli Absenoldeb ffurfiol.

Os cyflawnir presenoldeb boddhaol yn ystod y cyfnod adolygu hwn, h.y. bydd eich presenoldeb yn gwella ac nad ydych wedi cyrraedd trothwy ffurfiol, byddwch yn cael eich tynnu o'r cam rheoli absenoldeb ffurfiol, a bydd hyn yn cael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan eich rheolwr. Mae hyn gyda'r amod y byddwch yn ailddechrau ar gam 2 o'r weithdrefn rheoli absenoldeb salwch ffurfiol os bydd eich lefel o absenoldeb salwch yn cyrraedd trothwy ffurfiol o fewn y cyfnod monitro 4 mis canlynol.

Pan fydd patrwm o absenoldeb yn datblygu yn dilyn tynnu'r broses rheoli presenoldeb gall y rheolwr ymestyn y cyfnod monitro i 6 mis ar ddiwedd y cyfnod adolygu 3 mis gyda chyngor adnoddau dynol.

Mae gennych yr hawl i ofyn bod penderfyniad Cyfarfod Rheoli Presenoldeb 2il Gam yn cael ei adolygu gan eich cyfarwyddwr neu'ch cynrychiolydd enwebdig gyda chyngor gan y Prif Weithredol Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) neu gynrychiolydd enwebedig.

Rhaid gwneud y cais am adolygu'r penderfyniad yn ysgrifenedig i'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) o fewn 7 niwrnod calendr i ddyddiad derbyn y llythyr ynghylch y canlyniad, a rhaid i chi nodi'r rhesymau am y cais i adolygu. Bydd eich cyfarwyddwr neu'r cynrychiolydd enwebedig yn adolygu'r penderfyniad gyda chyngor gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) neu’r sawl enwebedig ac yn cadarnhau'r canlyniad i chi yn ysgrifenedig heb oedi diangen.

Os na fydd lefel y salwch yn gwella wedi'r cyfnod adolygu, cynhelir Cyfarfod Rheoli Presenoldeb 3ydd cam. Gall eich rheolwr llinell fod yng nghwmni rheolwr arall neu Bartner Busnes Adnoddau Dynol. Byddwch yn cael gwybod ymlaen llaw mai un o ganlyniadau posibl y cyfarfod hwn fyddai diswyddo ar sail afiechyd, a chynigir i chi yr hawl i ddod â chydymaith gyda chi. (Gweler y canllawiau ar rôl y cydymaith). Rhoddir saith niwrnod calendr o rybudd ysgrifenedig ynghylch cyfarfod ffurfiol o dan y Polisi Absenoldeb Salwch.

Bydd eich rheolwr llinell yn ystyried yr holl wybodaeth berthnasol yn eich cyfnod adolygu presennol gan gynnwys adroddiad meddygol cyfredol ac unrhyw gyflwyniad gennych chi a'ch cydymaith. Ar ben hynny, rhoddir ystyriaeth i gofnod presenoldeb y tair blynedd blaenorol (mewn achosion lle mae gennych lai na thair blynedd o wasanaeth, byddai'r cofnod presenoldeb cyfan yn cael ei ystyried).

Ym mhob achos, pan fo diswyddo ar sail afiechyd yn cael ei ystyried, dylid hysbysu'ch Cyfarwyddwr neu'ch cynrychiolydd enwebedig, a cheisio cyngor gan Bartner Busnes Adnoddau Dynol cyn y cyfarfod rheoli presenoldeb 3ydd cam. Os gwneir penderfyniad yn y cyfarfod trydydd cam i beidio â diswyddo, bydd yr un egwyddor ar waith ag yn y camau eraill, h.y. cynhelir adolygiad pellach, a chadarnheir hyn yn ysgrifenedig. Bydd hyd yr adolygiad terfynol hwn yn dibynnu ar ffeithiau'r achos ond ni fydd yn hirach na 3 mis.

Er mwyn arfer eich hawl i apelio yn dilyn diswyddo ar sail afiechyd dylech ysgrifennu at y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) o fewn 14 diwrnod calendr i ddyddiad derbyn llythyr y canlyniad, gan nodi'r sail ar gyfer yr apêl.

Caiff eich apêl ei hystyried gan banel apêl. Bydd y panel yn cynnwys cyfarwyddwr neu gynrychiolydd enwebedig a'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) neu gynrychiolydd enwebedig, a bydd eu penderfyniad yn derfynol.