Polisi Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol - Ebrill 2025
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Cwmpas
- 3. Beth yw Gofal Newyddenedigol?
- 4. Cymhwysedd ar gyfer Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
- 5. Faint o Absenoldeb ac Amseriad
- 6. Gofynion o ran rhoi rhybudd
4. Cymhwysedd ar gyfer Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
eth bynnag yw hyd eich gwasanaeth, mae gennych hawl statudol i gymryd absenoldeb gofal newyddenedigol os, ar ddyddiad geni'r plentyn:
• mai chi yw rhiant y plentyn a bod gennych gyfrifoldeb am fagu'r plentyn; neu
• rydych yn bartner i fam y plentyn a bod gennych y prif gyfrifoldeb am fagu'r plentyn (ar wahân i'r fam).
Yn y polisi hwn, mae partner yn cynnwys rhywun o unrhyw ryw sy'n byw gyda'r fam neu'r plentyn mewn perthynas deuluol barhaus ond nad yw'n blentyn, rhiant, ŵyr/wyres, tad-cu/mam-gu, brawd/chwaer, modryb, ewythr, nith neu'n nai i'r fam.
O ran mabwysiadu yn y DU, mae gennych hawl i absenoldeb gofal newyddenedigol os, ar y dyddiad y rhoddir y plentyn i'w fabwysiadu:
• mai chi yw mabwysiadwr y plentyn a bod gennych neu'ch bod yn disgwyl y bydd gennych gyfrifoldeb am fagu'r plentyn.
• mai chi yw darpar fabwysiadwr y plentyn (mewn trefniant "maethu i fabwysiadu") a bod gennych neu'ch bod yn disgwyl y bydd gennych gyfrifoldeb am fagu'r plentyn; neu
• rydych yn bartner i fabwysiadwr neu ddarpar fabwysiadwr y plentyn a bod gennych y prif gyfrifoldeb am fagu'r plentyn (ar wahân i'ch partner).
O ran mabwysiadu o dramor, mae gennych hawl i absenoldeb gofal newyddenedigol os, ar y dyddiad pan mae'r plentyn yn dod i Brydain Fawr:
• mai chi yw mabwysiadwr tramor y plentyn a bod gennych neu'ch bod yn disgwyl y bydd gennych gyfrifoldeb am fagu'r plentyn; neu
• rydych yn bartner i fabwysiadwr tramor y plentyn a bod gennych y prif gyfrifoldeb am fagu'r plentyn (ar wahân i'ch partner).
Os ydych chi'n cael plentyn drwy drefniant benthyg croth, mae gennych hawl i absenoldeb gofal newyddenedigol os, ar ddyddiad geni'r plentyn:
• rydych wedi gwneud cais neu'n bwriadu gwneud cais am orchymyn rhiant o fewn cyfnod o chwe mis.
• rydych yn disgwyl i'r gorchymyn rhiant gael ei ganiatáu; ac
• os oes gennych neu rydych yn disgwyl y bydd gennych gyfrifoldeb am fagu'r plentyn.
Yn ogystal, mae'n rhaid bodloni'r amodau canlynol:
• cafodd eich plentyn ei eni ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025.
• dechreuodd eich plentyn dderbyn gofal newyddenedigol o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad y cafodd ei eni (mae'r 28 diwrnod yn cael eu cyfrif o'r diwrnod ar ôl i'r plentyn gael ei eni).
• mae'r gofal newyddenedigol wedi para am saith diwrnod neu fwy heb doriad (mae'r saith diwrnod yn cael eu cyfrif o'r diwrnod ar ôl i'r gofal newyddenedigol ddechrau).
• rydych chi'n cymryd yr absenoldeb i ofalu am eich plentyn; a
• rydych wedi cydymffurfio â'r gofynion perthnasol o ran rhoi rhybudd a datganiad a nodir yn y polisi hwn.