Polisi Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol - Ebrill 2025

6. Gofynion o ran rhoi rhybudd

Rhybudd yn ystod y cyfnod haen 1 

Ar gyfer pob wythnos o absenoldeb gofal newyddenedigol yr hoffech ei chymryd yn haen 1, dylech roi gwybod i'ch rheolwr llinell a'r Tîm Absenoldeb, yn ddelfrydol cyn eich diwrnod cyntaf o absenoldeb yn yr wythnos honno. Fodd bynnag, rydym yn deall bod hwn yn debygol o fod yn amser heriol i chi, felly rhowch rybudd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i chi wneud hynny.

Mae'n ofynnol i chi hefyd roi rhybudd ynghylch eich bwriad a'ch hawl i gymryd absenoldeb gofal newyddenedigol gan ddefnyddio ein ffurflen gais am Absenoldeb Gofal Newyddenedigol (i'w chwblhau). Mae'r ffurflen hon yn cynnwys datganiad y bydd angen i chi ei lofnodi.

Nid oes disgwyl i chi lenwi'r ffurflen hon ar unwaith tra bod eich plentyn yn derbyn gofal newyddenedigol. Fodd bynnag, rydym yn gofyn i chi anfon y ffurflen atom o fewn 28 diwrnod i ddiwrnod cyntaf eich absenoldeb gofal newyddenedigol neu, os nad yw hyn yn bosibl, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol. 
 
Rhybudd yn ystod y cyfnod haen 2

Os ydych am gymryd absenoldeb gofal newyddenedigol yn y cyfnod haen 2, bydd angen i chi roi rhybudd ysgrifenedig ynghylch eich bwriad a'ch hawl i gymryd absenoldeb gofal newyddenedigol gan ddefnyddio ein ffurflen gais am Absenoldeb Gofal Newyddenedigol (i'w chwblhau). Mae'r ffurflen hon yn cynnwys datganiad y bydd angen i chi ei lofnodi.

Os ydych chi'n cymryd un wythnos o absenoldeb gofal newyddenedigol, dylem dderbyn eich rhybudd o leiaf 15 diwrnod cyn y dyddiad cyntaf rydych chi wedi'i ddewis i'ch absenoldeb ddechrau neu, os nad yw hyn yn bosibl, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Os ydych chi'n cymryd dwy wythnos neu fwy yn olynol o absenoldeb gofal newyddenedigol, dylem dderbyn eich rhybudd o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad cyntaf rydych chi wedi'i ddewis i'ch absenoldeb ddechrau neu, os nad yw hyn yn bosibl, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.