Polisi Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol - Ebrill 2025
Yn yr adran hon
- 7. Cymhwysedd ar gyfer Tâl Gofal Newyddenedigol Ychwanegol
- 8. Dechrau eich Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
- 9. Newid eich cynlluniau o ran Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
- 10. Eich hawliau yn ystod absenoldeb gofal newyddenedigol
- 11. Absenoldeb Statudol Arall
- 12. Sicrhau Triniaeth Gyfartal
7. Cymhwysedd ar gyfer Tâl Gofal Newyddenedigol Ychwanegol
Byddwch yn parhau i gael eich talu yn ôl eich cyfradd tâl arferol tra byddwch yn cymryd absenoldeb gofal newyddenedigol ar yr amod:
• bod gennych hawl i gymryd absenoldeb gofal newyddenedigol.
• bod gennych o leiaf 26 wythnos o gyflogaeth ddi-dor gyda ni ar ddiwedd yr wythnos berthnasol.
• eich bod yn parhau i fod mewn cyflogaeth ddi-dor o ddiwedd yr wythnos berthnasol (neu o enedigaeth y plentyn os cafodd ei eni cyn yr wythnos berthnasol).
• nad yw eich enillion wythnosol cyfartalog yn llai na'r isafswm enillion ar gyfer cyfraniadau yswiriant gwladol.
• eich bod wedi cydymffurfio â'r gofynion perthnasol o ran rhoi rhybudd a thystiolaeth ac yn gallu darparu'r datganiadau fel y nodir yn y polisi hwn; ac
• eich bod wedi cadarnhau pryd yr hoffech ddechrau derbyn tâl gofal newyddenedigol statudol yn eich ffurflen gais am Absenoldeb Gofal Newyddenedigol.
Mae tâl gofal newyddenedigol ychwanegol yn cynnwys unrhyw hawl i dâl gofal newyddenedigol statudol a all fod yn ddyledus i chi am yr un cyfnod.